A oes gennych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, alergedd, anoddefiad bwyd neu glefyd seliag? Weithiau mae cynhyrchion bwyd yn cael eu galw’n ôl oherwydd bod gwybodaeth am alergenau ar goll neu’n anghywir.
Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd wasanaeth rhybuddion alergedd rhad ac am ddim y gallwch danysgrifio iddo. Gallwch ddewis pa rai o’r 14 prif alergen yr ydych am gael rhybuddion ar eu cyfer, neu ddewis i gael rhybuddion am bob un.
Peidiwch â chymryd y risg. Mae modd cael rhybuddion alergedd yn syth i’ch ffôn symudol neu’ch mewnflwch.
Tanysgrifiwch heddiw: Tanysgrifio i newyddion a rhybuddion | Asiantaeth Safonau Bwyd
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Sut i gofrestru ar gyfer rhybuddion alergedd a hysbysiadau galw bwyd yn ôl
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch