Wyddoch chi y bu rhai digwyddiadau prin pan ffrwydrodd sigaréts electronig gan anafu pobl yn ddifrifol?
Credir mai problemau gyda’r batris sy’n achosi’r ffrwydradau hyn.
Gallai’r cyngor isod eich helpu chi i rwystro sigarét electronig rhag ffrwydro neu fynd ar dân
- Defnyddiwch y gwefrydd a gawsoch gyda’r e-sigarét yn unig. Peidiwch â’i wefru dros nos a chadwch lygad arno pan fydd yn gwefru. Datgysylltwch y gwefrydd a’r plwg ar ôl gorffen gwefru.
- Gwefrwch yr e-sigarét ar arwyneb glân, gwastad, i ffwrdd oddi wrth unrhyw beth a allai fynd ar dân. Gofalwch y gallwch weld eich e-sigarét pan fydd yn gwefru.
- Gofalwch eich bod yn darllen ac yn dilyn y cyfarwyddiadau neu’r rhybuddion sydd ar yr e-sigarét neu a gawsoch gydag o. Cysylltwch â’r gwneuthurwr os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os na chawsoch gyfarwyddiadau gyda’r e-sigarét.
- Ystyriwch ddefnyddio e-sigarét sydd â nodweddion diogelwch a pheidiwch â thynnu’r fath nodweddion diogelwch oddi ar y e-sigarét.
- Defnyddiwch ddim ond y batris dilys a argymhellir ar gyfer eich dyfais. Peidiwch â gadael i’ch batri gyffwrdd pethau metel. Cadwch fatris sbâr mewn cês plastig er mwyn rhwystro cyswllt damweiniol. Cadwch y batris o gyrraedd plant.
- Gwiriwch y batri’n rheolaidd a phrynwch un newydd ar unwaith os yw’r batri wedi’i ddifrodi, yn gollwng neu os nad yw’n gweithio’n iawn. Taflwch y batris mewn mannau ailgylchu neu waredu batris.
- Diogelwch yr e-sigarét rhag tymheredd eithafol – peidiwch â’i adael mewn haul uniongyrchol neu yn eich car ar noson rewllyd.
Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.
RYDW I EISIAU TALU RŴAN