Os yw eich plentyn yn gymwys i gael cludiant i’r ysgol o fis Medi, mae angen i chi wneud cais rŵan.
Bydd ceisiadau hwyr yn cael eu derbyn ond byddai’n help mawr i ni gael gwybod mewn da bryd faint o ddisgyblion sydd angen cludiant er mwyn trefnu’r bysiau.
Gallwch wneud cais ar-lein gan ddefnyddio’r dolenni ar y dudalen hon. Mae’n gyflym ac yn gyfleus iawn i’w wneud.
Bydd modd i chi wneud cais tan 31 Mawrth ar gyfer y tymor newydd ym mis Medi. Byddwn yn rhoi gwybod a yw’ch cais wedi bod yn llwyddiannus erbyn 31 Gorffennaf.
“Ydi fy mhlentyn yn gymwys i gael cludiant i’r ysgol?”
Byddwn yn darparu cludiant am ddim i ddisgyblion sy’n mynychu eu hysgol addas agosaf pan fo’r pellter cerdded yn fwy na 2 filltir i ddisgyblion ysgol gynradd neu 3 milltir i blant ysgol uwchradd. Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys i wneud cais, gallwch ddarllen mwy yma.
“Os yw’n well gennych beidio â gwneud cais ar-lein…”
Gallwch wneud cais am gludiant i’r ysgol trwy lawrlwytho’r ffurflen oddi ar ein gwefan yma neu gallwch alw heibio i’r Ganolfan Gyswllt ar Stryt Yr Arglwydd yng nghanol y dref neu eu ffonio ar 01978 292000.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN