Mae’n wir – does neb yn berffaith…ac er y gallwn ymdrechu i fod yn arch-arwyr ailgylchu, mae’n debygol y gallai pawb wneud ychydig newidiadau i wneud yn well dros Wrecsam.
Achos gadewch i ni fod yn onest, o safbwynt ailgylchu, mae llawer o wybodaeth i’w gofio, felly mae disgwyl i chi wneud camgymeriadau weithiau.
Felly rydym wedi penderfynu rhoi cwis at ei gilydd sy’n amlygu rhai o’r camgymeriadau cyffredin hawdd i’w gwneud… rhowch dro ar y cwis i weld sut hwyl gewch chi 🙂
Felly, sut wnaethoch chi? Gawsoch chi 5/5 neu wnaethoch chi ddysgu rywbeth newydd? Y peth pwysicaf yw eich bod yn rhoi tro arni a’ch bod yn barod i ddysgu mwy 🙂
Cadwch lygad ar ein blog newydd ac ar ein tudalennau Facebook a Twitter gan y byddwn yn dod a mwy o gyngor a gwybodaeth am ailgylchu i chi dros yr wythnosau nesaf.
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
A rhag ofn i chi fethu unrhyw un o’r rhain, dyma flogiau ailgylchu eraill defnyddiol…
Ailgylchu gwastraff bwyd – awgrymiadau defnyddiol
Ydych chi’n ailgylchu gwastraff bwyd? Yn Wrecsam, gyda chasgliadau wythnosol, cadis a bagiau cadis am ddim, mae’n haws nag erioed i ailgylchu eich gwastraff bwyd. Darllenwch ymlaen i gael gwybod mwy…
“Pa blastig dwi’n gallu ei ailgylchu yn Wrecsam?”
Mae yna lawer iawn o wahanol fathau o blastig, felly mae’n naturiol i rywun ddrysu a chwestiynu ei hun weithiau “ynglŷn â pha blastig dwi’n gallu ei ailgylchu?” Darllenwch ymlaen i gael gwybod mwy…
Mae’r batris yn fy nheclyn rheoli o bell wedi darfod…beth allaf wneud nesaf?
Y peth cyntaf i’w wneud yw eu newid nhw gyda rhai newydd, ond beth ddylech wneud gyda’r hen fatris? Darllenwch ymlaen i gael gwybod mwy…
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU