Rydym i gyd yn caru ein cŵn ac yn mynd â nhw am dro rheolaidd a rhedeg i’w cadw’n iach ac mewn cyflwr da.
Felly, er mwyn cadw pawb yn hapus – perchnogion cŵn a phawb arall – rydym yn defnyddio Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus i gyfyngu lle gall cŵn fynd ac rydym yn meddwl ei fod yn deg a hawdd i’w ddeall.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Y pethau pwysicaf i’w gwybod yw:
- Ni ellir gollwng cŵn oddi ar dennyn mewn meysydd parcio a chanolfannau ymwelwyr yn ein holl barciau gwledig, ond gellir eu gollwng yn rhydd pan nad ydynt yn yr ardaloedd hynny.
- Ni chaniateir cŵn ar gaeau chwarae sydd wedi eu marcio, lawntiau bowlio, ardaloedd chwarae plant, parciau sgrialu, cyrtiau tennis na llecynnau gemau amlddefnydd.
- Dylai eich ci hefyd fod ar dennyn ar ffordd gyhoeddus neu balmant neu os gofynnir i chi roi un ar eich ci yn unrhyw le ar unrhyw adeg gan un o swyddogion y cyngor.
- Dylech bob amser gario bag ar gyfer baw ci, a’i godi os yw’r ci’n baeddu.
Gellwch dderbyn dirwy o hyd at £100 os nad ydych yn dilyn y cyfyngiadau.
Mae’r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus mewn grym tan fis Medi 2023, pan fyddwn yn ei adolygu i weld sut y mae’n gweithio.
Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog Amgylcheddol a Thechnegol, “Mae llawer o berchnogion cŵn cyfrifol ledled y fwrdeistref sirol sy’n poeni, nid yn unig am eu cŵn, ond am eu hamgylchoedd a mwynhad eraill o’r lle hefyd. Fodd bynnag, rydym yn cael adroddiadau am gŵn yn baeddu ar gaeau chwaraeon, sy’n amlwg yn annerbyniol ac yn beryglus. Rydym hefyd yn derbyn cwynion am gŵn yn rhedeg yn rhydd, ac weithiau’n achosi gofid i eraill yn y cyffiniau. Am y rheswm hwn, gofynnaf i bawb fod yn ymwybodol o’r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus diweddaraf, a’r hyn sy’n ddisgwyliedig ohonynt wrth iddynt fynd am dro gyda’u cŵn.”
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH