Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Drafft Datganiad i’r Wasg mewn ymateb i Adroddiad Gwastraff Archwilio Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Drafft Datganiad i’r Wasg mewn ymateb i Adroddiad Gwastraff Archwilio Cymru
Y cyngor

Drafft Datganiad i’r Wasg mewn ymateb i Adroddiad Gwastraff Archwilio Cymru

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 16, 2026 9:32 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Drafft Datganiad i'r Wasg mewn ymateb i Adroddiad Gwastraff Archwilio Cymru
RHANNU

Mae Aelod Arweiniol newydd Cyngor Wrecsam dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd David A Bithell, wedi ymateb i Adroddiad Archwilio Cymru ar Wastraff.

Mae Adroddiad Archwilio Cymru ar Wastraff yn gyfres o werthusiadau perfformiad annibynnol sy’n asesu sut mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn delio â gwastraff, ailgylchu a thargedau statudol.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell

“Croesawu’r adroddiad gan Archwilio Cymru mewn modd cadarnhaol

  1. Mae gan Wrecsam record da iawn ym maes Gwastraff ac Ailgylchu er nad yw ein perfformiad wedi cynyddu yn ddiweddar er ein bod yn y chwartel uchaf yng Nghymru yn y blynyddoedd cynnar.
  2. Rydw i’n cydnabod bod ein costau’n uchel, er, i roi hyn mewn cyd-destun, mae ein timau mewnol sy’n gweithio yn y gwasanaethau gwastraff hefyd yn gweithio ar draws meysydd cynnal a chadw tiroedd a phriffyrdd ac maen nhw’n amlswyddogaethol.
  3. Mae ein contract MCP yn gostus, er ei fod yn un o’r cyfleusterau mwyaf blaenllaw yng Nghymru, mae angen i ni ddeall ein costau a chynllunio at pan fydd y cytundeb yn dod i ben a gwneud unrhyw arbedion effeithlonrwydd neu gynhyrchu incwm i leihau costau. Rydyn ni’n gweithio gyda’n cyflenwr i gynllunio a chefnogi mentrau sydd wedi’u targedu’n well, gan gynnwys yr ystafelloedd addysgol sydd ar gael. 
  4. o ran perfformiad – er ei fod ar hyn o bryd yn is na’r targedau statudol, rydyn ni’n bwriadu cynyddu ein cyfraddau ailgylchu a chompostio. Bydd y strategaeth ddiwygiedig y byddwn ni’n ei chyflwyno ddechrau mis Medi yn canolbwyntio’n glir ar gynyddu ein cyfraddau ailgylchu a’n gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd. Rydyn ni hefyd yn bwriadu cyflwyno bagiau trymach a bocsys ailgylchu newydd gan fod y capasiti ledled Wrecsam yn gymysg rhwng trolïau a bocsys ailgylchu. 
  5. Mae angen i ni ymgysylltu’n well ag aelodau etholedig a’n hetholwyr ar sut y gallwn ni wella’r gwasanaeth ynghyd â chynllun ar sut y byddwn ni’n cyrraedd 70%. Rydyn ni wedi gostwng o ran lefelau ymgysylltu cadarnhaol yn y maes hwn ac mae angen gwella fel bod penderfyniadau yn y dyfodol yn cael eu deall yn llawn. Byddwn ni’n cyflwyno swyddog cyfryngau newydd yn benodol ar gyfer y gwasanaeth. Bydd y swydd hon yn ymgysylltu â’n tîm strategaeth gwastraff sydd â bylchau o ran capasiti. Bydd hyn yn sicrhau bod ymgysylltu a rhannu gwybodaeth gyda’n hetholwyr a’n haelodau etholedig yn well. 
  6. Rydyn ni’n gweithio’n galed i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol ein gostyngiad mewn perfformiad a gwella dadansoddi data, gan gynnwys cost y gwasanaeth. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gyflymu i sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau gwybodus yn y dyfodol.”

Mae rhagor o wybodaeth am Archwilio Cymru Gwastraff i’w gweld ar wefan Archwilio Cymru Gwastraff.   

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae gwaith cymdeithasol yn gwneud y gwahaniaeth... Gweithiwr Cymdeithasol cymwys?
Erthygl nesaf Dathlu gweithwyr gofal cymdeithasol mewn gwobrau cymwysterau Dathlu gweithwyr gofal cymdeithasol mewn gwobrau cymwysterau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English