Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dros 80 o “fentrau-micro cymunedol” yn cefnogi pobl hŷn ac anabl yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dros 80 o “fentrau-micro cymunedol” yn cefnogi pobl hŷn ac anabl yn Wrecsam
Pobl a lle

Dros 80 o “fentrau-micro cymunedol” yn cefnogi pobl hŷn ac anabl yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 16, 2023 1:53 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Dros 80 o “fentrau-micro cymunedol” yn cefnogi pobl hŷn ac anabl yn Wrecsam
RHANNU

Mae dros 80 o fentrau bychain iawn wedi eu sefydlu yn Wrecsam sy’n cynnig gofal a dewisiadau cymorth lleol iawn sy’n greadigol a hyblyg i bobl hŷn a phobl ag anableddau. Mae’r bobl hynod frwdfrydig hyn wedi helpu i drefnu bod cynllun yn cael ei ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac sy’n cael ei redeg gan fenter cymdeithasol ar draws y DU gyfan sef Community Catalysts.

Mae’r mentrau hyn wedi eu sefydlu a’u rhedeg gan bobl leol sydd â brwdfrydedd llwyr i gefnogi eraill. Mae’r cynllun yn eu helpu nhw i sefydlu eu hunain ac i gwrdd â’r Safonau Ei Wneud yn Iawn”. Maen nhw’n cynnig amrywiaeth o ddewisiadau o lanhau, cymorth i baratoi a mwynhau hoff bryd, cerdded cŵn, cymorth i wneud ymarfer corff a diwrnodau allan.

Meddai Fiona Futcher sy’n rhedeg menter cymunedol o’r enw Gofal Ceiriog:

“Dwi’n cael cyfle i ddod i nabod y bobl dwi’n cynnig cymorth iddyn nhw yn ogystal â’u teuluoedd – ac maent hwythau yn dod i nabod finnau, yn aml yn clywed llawer o hanesion am fy anifeiliaid anwes a fy ngheffyl! Mae adeiladu perthnasau yn golygu fy mod yn gallu cynnig gwasanaeth i gyd-fynd â’u gofynion unigol.  Dwi wrth fy modd yn cefnogi pobl a dod i’w nabod nhw, dwi’n gallu helpu gydag unrhyw agwedd o fywyd bob dydd a hyd yn oed ar gael i wneud ymweliadau ar alwad. Byddaf yn gwneud fy ngorau dros y bobl dwi’n gefnogi a fy nod yw eu helpu nhw i aros yng nghartrefi eu hunain am gyn hired ag sy’n bosib”.

Mae mam Dave yn derbyn cefnogaeth gan Gofal Ceiriog, ac meddai Dave:

“Mae mam yn cael cymorth gan nifer fechan o bobl leol hunangyflogedig. Mae’r gofal a’r cymorth y maen nhw’n ei gynnig o’r radd flaenaf.  Mae sefydlogrwydd yng ngofal mam, ac mae ganddi berthynas gyda’r gweithwyr – mae nhw hefyd yn cynnig cyfeillgarwch a chwmni.  Mae hyn yn bwysig iawn i mam am ei bod hi’n gaeth i’w chartref, a dydi rhan fwyaf o’i chyfoeswyr ddim gyda ni rhagor.”

Amlygodd Steve Latham-White, Uwch Swyddog Comisiynu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam y rheswm pam bod y rhaglen mor llwyddiannus: “Pan yn bosib rydym eisiau i breswylwyr Wrecsam gael dewis a rheolaeth dros yr help a’r gefnogaeth y maen nhw’n ei dderbyn er mwyn bod mor annibynnol â phosib. Bellach mae dewis eang o fentrau i ddewis ohonynt gan ‘Small Good Stuff’ o ganlyniad i lwyddiant rhaglen Community Catalysts.

Meddai Amy Kordiak o Community Catalyst Wrecsam sy’n rhedeg y cynllun:   “Mae darganfod gofal a chymorth i’ch hun neu rywun yr ydych yn ei garu yn gallu bod yn gyfnod llawn straen a phryder. Os ydych yn edrych am ddewisiadau cymorth sydd ychydig yn wahanol neu o ddiddordeb i chi, neu i anwylyd, efallai y dewch o hyd i rywun lleol all eich cefnogi sydd yn ei cyfeiriadur  am ddim, sef y ‘Small Good Stuff’!

I ddarganfod mwy am y dewisiadau gofal a chymorth sydd ar gael yn Wrecsam ewch YMA  

Rhannu
Erthygl flaenorol £1 bus fares in Wrexham Cyhoeddi Prisiau Gostyngedig i Helpu Lansio Gwasanaethau Bws Newydd
Erthygl nesaf Diolch Fawr i Chapter Court am Goeden Nadolig eleni Diolch Fawr i Chapter Court am Goeden Nadolig eleni

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
ArallFideoPobl a lle

Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam

Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English