Mae mynediad at dai fforddiadwy a diogel o safon yn un o’r pethau pwysicaf a mwyaf hanfodol y gallwn ni fel Cyngor helpu i’w darparu.
I’n helpu i gyflawni hyn, rydym yn cynhyrchu cynllun ysgrifenedig sy’n amlinellu sut yr ydym yn bwriadu gweithio gyda’n sefydliadau partner i ddarparu tai sy’n diwallu anghenion ein poblogaeth yn y ffordd orau.
Bydd ein Strategaeth Tai Lleol newydd ar gyfer 2018-2023 yn gosod gweledigaeth 5 mlynedd ar gyfer cyflenwi tai a gwasanaethau sy’n gysylltiedig â thai yn y Fwrdeistref Sirol.
Bydd yn cydnabod anghenion unigol gan weithio i wella tai a gwasanaethau sy’n gysylltiedig â thai ar gyfer tenantiaid a phreswylwyr.
Rydym am glywed gan bawb ohonoch chi
Er y bydd y strategaeth yn cael ei chyhoeddi fel dogfen gan y Cyngor, ei bwriad yw cwmpasu pob math o dai a deiliadaethau ac nid tai rhentu cymdeithasol yn unig.
I’n helpu i gynhyrchu’r cynllun, mae’n hanfodol ein bod yn casglu barn a safbwyntiau am yr hyn y credwch chi fydd y blaenoriaethau a’r nodau o ran tai yn Wrecsam dros y blynyddoedd nesaf.
Efallai’ch bod yn denant i’r cyngor neu’n berchennog ar eich cartref eich hun, neu efallai’ch bod yn byw mewn tŷ rhent preifat.
Beth bynnag fo’ch sefyllfa o ran tai, hoffem glywed gennych chi!
Rydym hefyd yn awyddus iawn i gasglu barn gan ddatblygwyr, landlordiaid a gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn tai neu wasanaethau sy’n gysylltiedig â thai
Mae’n ‘hanfodol’ cael cynllun ar gyfer y dyfodol
Dywedodd yr Aelod Arweiniol Tai, y Cyng. David Griffiths: “Mae hwn yn gyfnod arbennig o brysur i dai yn Wrecsam gyda datblygiadau newydd yn yr arfaeth a phob math o waith gwella yn cael ei wneud ar filoedd o gartrefi a chymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol.
“Mae’r angen am dai o safon uchel yn dal i fod yn flaenoriaeth i ni fel cyngor felly mae’n hanfodol bod gennym gynllun mewn lle a fydd yn ein helpu i ddarparu hyn mewn ffordd sy’n llenwi’r bylchau rhwng y mathau amrywiol o letyau sydd ar gael ac sy’n cydnabod anghenion a dyheadau ein poblogaeth gynyddol yn y ffordd orau.”
Sut i ddweud eich dweud
- Cliciwch yma i lenwi ein hymgynghoriad.
- Bydd yr ymgynghoriad yn weithredol o ddydd Llun 16 Ebrill tan ddydd Llun 28 Mai.
- Os hoffech gael copi papur i’w llenwi, e-bostiwch ni – getinvolvedinhousing@wrexham.gov.uk neu ffoniwch 01978 298993
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI