Mae gofyn i bobl Wrecsam roi eu barn am gynlluniau i wella llwybrau cerdded a beicio ar hyd pedair prif ffordd.
Mae Cyngor Wrecsam a Thrafnidiaeth Cymru’n cydweithio i’w gwneud yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy cyfleus cerdded a beicio yn y ddinas, ac rydym eisiau eich adborth ar gynlluniau i wella:
- Yr A525 ar hyd Ffordd Melin y Brenin, Ffordd Sir Amwythig a Rhodfa San Silyn.
- Yr A534 ar hyd Ffordd Holt a Ffordd Borras.
- Yr A5152 ar hyd Ffordd Caer.
- Yr A541 ar hyd Ffordd yr Wyddgrug a Stryt y Rhaglaw.
I roi eich barn, cymerwch ran yn ein hymgynghoriad ar-lein lle gallwch weld darluniau a lluniau o’r gwelliannau sydd ar y gweill.
Neu galwch draw i’n sesiwn alw heibio yn Tŷ Pawb, Stryt y Farchnad, Wrecsam, LL13 8BY ddydd Mercher, 9 Tachwedd rhwng 4pm a 7pm.
Argyfwng yr hinsawdd
Mae’r Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd David Bithell, sy’n arwain ar gludiant strategol a theithio llesol, yn dweud: “Drwy ddarparu gwell llwybrau cerdded, traciau beicio a chroesfannau, a datblygu rhwydwaith o lwybrau ar hyd Wrecsam, gallwn wneud cerdded a beicio’n fwy diogel a chyfleus.
“Rydym ni eisiau annog mwy o bobl i adael eu car gartref ar deithiau lleol, byr, ac wrth i’r byd wynebu argyfwng hinsawdd ac ecolegol, mae hyn yn bwysicach nag erioed.
“Felly llenwch ein holiadur ar-lein neu dewch draw i’n sesiwn galw heibio yn Tŷ Pawb ar 9 Tachwedd.”
Cysylltu cymunedau
Mae’r Cynghorydd Hugh Jones, yr aelod arweiniol sy’n gyfrifol am briffyrdd, yn dweud: “Mae’r llwybrau rydyn ni eisiau eu darparu’n gysylltiadau pwysig rhwng cymunedau, ysgolion, siopau, llefydd gwaith a chanol y dinas.
“Rydyn ni wedi ystyried sut y gallai pob llwybr gael ei ailddylunio i greu llwybrau uniongyrchol, diogel, cyfforddus a deniadol i gerddwyr, yn cynnwys pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd, yn ogystal â beicwyr.
“Mae hwn yn brosiect cyffrous i Wrecsam, felly sbariwch ychydig o amser i edrych ar y cynigion a chynnig eich barn arnynt.”
Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 21 Tachwedd.
LLEISIWCH EICH BARN