Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dweud eich dweud am gynlluniau i wella llwybrau cerdded a beicio yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dweud eich dweud am gynlluniau i wella llwybrau cerdded a beicio yn Wrecsam
Pobl a lle

Dweud eich dweud am gynlluniau i wella llwybrau cerdded a beicio yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 1, 2022 12:40 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Active travel consultation
RHANNU

Mae gofyn i bobl Wrecsam roi eu barn am gynlluniau i wella llwybrau cerdded a beicio ar hyd pedair prif ffordd.

Cynnwys
  • Argyfwng yr hinsawdd
  • Cysylltu cymunedau

Mae Cyngor Wrecsam a Thrafnidiaeth Cymru’n cydweithio i’w gwneud yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy cyfleus cerdded a beicio yn y ddinas, ac rydym eisiau eich adborth ar gynlluniau i wella:

- Cofrestru -
Wrecsam2029
  • Yr A525 ar hyd Ffordd Melin y Brenin, Ffordd Sir Amwythig a Rhodfa San Silyn.
  • Yr A534 ar hyd Ffordd Holt a Ffordd Borras.
  • Yr A5152 ar hyd Ffordd Caer.
  • Yr A541 ar hyd Ffordd yr Wyddgrug a Stryt y Rhaglaw.

I roi eich barn, cymerwch ran yn ein hymgynghoriad ar-lein lle gallwch weld darluniau a lluniau o’r gwelliannau sydd ar y gweill.

Neu galwch draw i’n sesiwn alw heibio yn Tŷ Pawb, Stryt y Farchnad, Wrecsam, LL13 8BY ddydd Mercher, 9 Tachwedd rhwng 4pm a 7pm.

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Argyfwng yr hinsawdd

Mae’r Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd David Bithell, sy’n arwain ar gludiant strategol a theithio llesol, yn dweud: “Drwy ddarparu gwell llwybrau cerdded, traciau beicio a chroesfannau, a datblygu rhwydwaith o lwybrau ar hyd Wrecsam, gallwn wneud cerdded a beicio’n fwy diogel a chyfleus.

“Rydym ni eisiau annog mwy o bobl i adael eu car gartref ar deithiau lleol, byr, ac wrth i’r byd wynebu argyfwng hinsawdd ac ecolegol, mae hyn yn bwysicach nag erioed.

“Felly llenwch ein holiadur ar-lein neu dewch draw i’n sesiwn galw heibio yn Tŷ Pawb ar 9 Tachwedd.”

Active travel concultation
Active travel
Active travel

Cysylltu cymunedau

Mae’r Cynghorydd Hugh Jones, yr aelod arweiniol sy’n gyfrifol am briffyrdd, yn dweud: “Mae’r llwybrau rydyn ni eisiau eu darparu’n gysylltiadau pwysig rhwng cymunedau, ysgolion, siopau, llefydd gwaith a chanol y dinas.

“Rydyn ni wedi ystyried sut y gallai pob llwybr gael ei ailddylunio i greu llwybrau uniongyrchol, diogel, cyfforddus a deniadol i gerddwyr, yn cynnwys pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd, yn ogystal â beicwyr.

“Mae hwn yn brosiect cyffrous i Wrecsam, felly sbariwch ychydig o amser i edrych ar y cynigion a chynnig eich barn arnynt.”

Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 21 Tachwedd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://wrexhamtransformingtowns.commonplace.is/cy-GB”]LLEISIWCH EICH BARN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Bonfire Night Cyngor Defnyddiol ar gyfer cadw’n ddiogel ar Noson Tân Gwyllt
Erthygl nesaf Christmas Cyhoeddi dyddiad Noson Goleuadau Nadolig – 24 Tachwedd!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English