Gall aelodau’r cyhoedd rannu eu barn ar gynigion cyffrous i drawsnewid yr ardal o amgylch gorsaf drenau Wrecsam Cyffredinol.
Mae’r cynllun yn cael ei gyflawni gan Bartneriaeth Porth Wrecsam, sy’n cynnwys Cyngor Wrecsam, Trafnidiaeth Cymru, Prifysgol Wrecsam a Llywodraeth Cymru, a bydd yr ymgynghoriad yn weithredol tan 7 Mai.
Mae’r cynigion yn cynnwys:
- Gorsaf drafnidiaeth newydd o flaen yr orsaf, gan gynnig gwell cyfnewidfa rhwng rheilffyrdd, bysiau a dulliau eraill o deithio, yn ogystal â gwell llwybrau cerdded, olwyno a beicio.
- Datblygiad masnachol arwyddocaol newydd.
- Sgwâr cyhoeddus a chynllun tirlunio newydd, a fydd yn helpu i gyfleu neges ‘Croeso i Ddinas Wrecsam’ i ymwelwyr.
- Gwell seilwaith ffyrdd.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae proffil Wrecsam yn cynyddu ac mae’r ddinas yn denu gwerth miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad, a bydd y cynllun cyffrous hwn yn ein helpu i fynd o nerth i nerth – gan greu opsiynau teithio mwy cydlynol a helpu i ddenu buddsoddiad masnachol.
“Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i roi adborth cyn i’r cynlluniau gael eu cwblhau a’u cyflwyno i gael caniatâd cynllunio amlinellol, felly byddwn i’n annog pawb i gymryd rhan a rhannu eu barn.”
Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd David A Bithell, sydd hefyd yn gyfrifol am drafnidiaeth strategol: “Mae’n bwysig ein bod yn parhau i foderneiddio a gwella seilwaith trafnidiaeth yn Wrecsam.
“Rydym isio i bobl allu rhyngweithio’n hawdd â gwahanol fathau o drafnidiaeth, ond mae angen i ni gael hyn yn iawn, felly mae’n bwysig bod pobl yn rhannu eu barn gyda’r bartneriaeth.”

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae’r cynllun ailddatblygu ar gyfer yr ardal o amgylch Gorsaf Gyffredinol Wrecsam yn gyfle cyffrous i wella enw da Wrecsam fel cyrchfan flaenllaw i ymwelwyr, gan ddenu mwy o bobl i’r ddinas, tra’n darparu gwell mynediad at gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ar y rheilffyrdd a ffyrdd.”
“Rydym yn falch o fod yn bartner yn y cynllun hwn ac yn edrych ymlaen yn fawr at glywed barn pobl ar sut mae’r cynlluniau hyn yn cael eu gweithredu.”
Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Ranbarthol ac Integreiddio Trafnidiaeth Cymru: “Fel rhan o’n hymrwymiad i adeiladu Rhwydwaith Trafnidiaeth integredig yng Nghymru, rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r bartneriaeth i ddatblygu’r cynlluniau hyn, gan roi Gorsaf Gyffredinol Wrecsam wrth wraidd y cynigion.
“Rydym yn croesawu’r cyfle i wella cysylltiadau rhwng rheilffyrdd a bysiau’n sylweddol ac ar gyfer gwell llwybrau i gerdded, olwyno a beicio yn Wrecsam, yn ogystal â gwella profiad cyffredinol i gwsmeriaid yn yr orsaf.
“Mae Gorsaf Gyffredinol Wrecsam yn rhan hanfodol o’r rhwydwaith teithio yn Wrecsam, felly mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud pethau’n iawn a bydd adborth gan y gymuned yn hanfodol wrth i ni symud ymlaen.”
Dweud eich dweud ar-lein
Gallwch lenwi’r arolwg byr ar-lein a rhoi eich barn i ni.
Mae’r cyfnod ymgysylltu yn agor ar 31 Mawrth ac yn rhedeg tan 12 Mai.
Dweud eich dweud wyneb yn wyneb
Yn ogystal â chymryd rhan ar-lein, bydd dau ddigwyddiad galw heibio lle gallwch ddysgu mwy a gofyn cwestiynau:
- Gorsaf Wrecsam Cyffredinol (Station Approach, Wrecsam LL11 2AA) – 1 Ebrill o 10am tan 4pm.
- Tŷ Pawb (Market Street, Wrecsam LL13 8BB) – 9 Ebrill o 10am tan 4pm.
Bydd ffurflenni adborth papur hefyd ar gael yn y digwyddiadau galw heibio, neu gellir eu casglu o swyddfa docynnau Gorsaf Wrecsam Cyffredinol a Llyfrgell Wrecsam (Ffordd Rhosddu, Wrecsam LL11 1AU).