Person ifanc rhwng 16 a 25 oed yw rhywun sydd yn gadael gofal, sydd wedi derbyn gofal y tu allan i’w teulu ar ryw adeg.
Gall y cyfnod rhwng bod mewn gofal ac yna gadael gofal fod yn brofiad anodd iawn, yn enwedig pan fydd rhywun mor ifanc.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Yn rhan o wythnos Pobl sy’n Gadael Gofal rydym wedi gwahodd rhai o’n pobl ifanc sydd wedi gadael gofal i rannu eu profiadau, cyngor, eu straeon, eu cynlluniau a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Mae straeon rhai o’r bobl ifanc wedi bod yn emosiynol iawn a heblaw am newidiadau bach mewn rhai achosion i helpu i’w cadw’n ddienw, mae’r geiriau ysbrydoledig yn cael eu siarad gan y bobl ifanc eu hunain.
Gofynnwyd yr un cwestiwn i’r bobl ifanc sydd wedi gadael gofal, ac mae’r atebion yn dangos bod eu hamgylchiadau personol a’u personoliaethau wedi golygu profiadau gwahanol iawn.
Rydym ni’n gobeithio y bydd eu geiriau cynnig cysur, cyngor ac ysbrydoliaeth i oedolion ifanc eraill mewn sefyllfaoedd tebyg…
Rwy’n ugain mlwydd oed, mi ges i fy magu yn Wrecsam ond wedi symud yn ddiweddar i Essex. Rydw i wedi bod yng ngofal caredig Pobl sy’n Gadael Gofal Wrecsam ers tro.
Dwi’n hoffi ymarfer corff neu wrando ar gerddoriaeth.
Roeddwn yn 15 mlwydd oed pan oeddwn yn dod i mewn i ofal.
Roedd o’n brofiad brawychus i ddechrau gan nad oeddwn i’n gwybod beth i’w ddisgwyl. Ond fe gefais i gefnogaeth aruthrol gan y cymorthyddion personol a’r gweithwyr cymdeithasol ers y diwrnod cyntaf un, a bob amser wedi bod yn ffyddiog y byddai popeth yn iawn yn y pen draw. Fyddwn i ddim wedi cyrraedd ble’r ydw i hebddyn nhw wrth f’ochr i. Chefais i ddim llawer o drafferth yn mynd o un i’r llall gan fod y tîm gadael gofal yn fy nghefnogi.
Rwy’n gydlynydd achub ac fe hoffwn i weithio fy ffordd i fyny a bod yn oruchwyliwr. Ond fy nharged yn y pen draw ydi gweithio ym maes gwerthiant.
……………………………………………………………………………………………………………….
Dwi’n bedair ar bymtheg oed. Dw i’n byw gartref gyda fy mab 22 mis oed a fy mhartner. Ar hyn o bryd dw i’n astudio gofal plant yng Ngholeg Cambria. Dw i yn fy mlwyddyn olaf yn y coleg ac yn edrych ymlaen at fynd i’r brifysgol ym mis Medi 2022.
Dw i wrth fy modd yn mynd i’r coleg a hefyd yn gwneud lleoliad gwaith mewn ysgol. Dw i hefyd yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth a gwneud pethau gyda’r teulu a’r ci.
Roeddwn i’n bedair ar ddeg oed pan ges i fy nerbyn i ofal gyntaf.
Roeddwn i’n ffodus o gael fy lleoli efo’r gofalwyr maeth gorau posib, a oedd yn gefnogol dros ben ac yn gwneud imi deimlo’n gysurus ac yn saff. Dw i’n dal i siarad efo fy ngofalwyr maeth ac rydym yn cwrdd i wneud gwahanol bethau, fe fyddan nhw’n deulu imi am byth.
Dw i wedi mwynhau symud i fy nhŷ fy hun yn fawr iawn, rydw i’n byw yma ers dwy flynedd bellach, ac er ei bod yn gallu bod yn straen weithiau i gadw trefn ar arian a biliau, mae’n werth yr ymdrech er mwyn cael fy nghartref fy hun.
Ar hyn o bryd dw i’n astudio ail flwyddyn/blwyddyn olaf cwrs Gofal Plant Lefel 3 ac wrthi’n paratoi fy nghais i fynd i’r brifysgol, lle dw i’n gobeithio astudio gwaith cymdeithasol a dod yn weithiwr cymdeithasol fy hun a helpu plant a theuluoedd yn union fel fi.
Os ydych chi’n rhywun sy’n gadael gofal ac eisiau cyngor, cysylltwch â’r tim gadael gofal :01978295610
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am ddod yn ofalwr maeth cysylltwch â:Taylor Downes , 01978295316 , Taylor.Downes@wrexham.gov.uk
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am gynnig llety â chefnogaeth, cysylltwch â:Sara Jones – sara.jones@wrexham.gov.uk, 01978295320
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL