Mae grwpiau a chlybiau chwaraeon yn Wrecsam yn gwneud llawer o waith da, fel y dangoswyd gan ein Gwobrau Chwaraeon yn ddiweddar.
Er yn aml yn dibynnu ar waith caled gwirfoddolwyr, nid yw’r clybiau hyn yn rhedeg am ddim, ac yn aml yn dibynnu ar arian gan aelodau a chefnogwyr i’w cynnal.
Yn ffodus, mae yna arian ar gael i helpu’r grwpiau hyn a lleihau rhywfaint o’r pwysau a wynebir ganddynt wrth edrych am gefnogaeth.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.
Mae ceisiadau ar gyfer cronfa Cist Gymunedol 2018 nawr ar gael, gyda’r rownd gyntaf o arian yn dod i ben ar 18 Ebrill.
Mae Cist Gymunedol yn fenter gan Chwaraeon Cymru, ar gael i grŵp cymunedol neu glwb chwaraeon gyda banc neu gymdeithas adeiladu.
Gall yr arian helpu clybiau chwaraeon gydag ychydig o arian ychwanegol i’w helpu i brynu offer neu ar gyfer costau, gan roi’r siawns iddynt ganolbwyntio ar hyfforddiant neu ymgysylltu â’r gymuned.
Gall grwpiau ymgeisio am hyd at £1,500 y flwyddyn.
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Roedd Gwobrau Chwaraeon diweddar yn dangos elfen chwaraeon cymunedol cryf iawn yn Wrecsam.
“Mae Cist Gymunedol yno i helpu’r clybiau hynny gael yr adnoddau ychwanegol maent eu hangen.”
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Louise Brady, Cyngor Wrecsam louise.brady@wrexham.gov.uk; ffôn 01978 297359 neu ymgeisiwch ar ein gwefan.
Gwybodaeth ar sut i ymgeisio ar gael ar wefan Chwaraeon Cymru.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU