Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dyma beth o’r plastig y daethom o hyd iddo yn eich gwastraff cyffredinol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dyma beth o’r plastig y daethom o hyd iddo yn eich gwastraff cyffredinol
Y cyngor

Dyma beth o’r plastig y daethom o hyd iddo yn eich gwastraff cyffredinol

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 17, 2020 10:37 am
Rhannu
Darllen 3 funud
P
RHANNU

Mae llawer ohonom yn Wrecsam yn ailgylchu ein poteli, potiau, tybiau a chynwysyddion plastig eraill yn ein blychau ailgylchu bob wythnos.

Cynnwys
  • Gadewch i ni gyrraedd 70%
  • Golchwch y cynwysyddion

Ond mae nifer fawr o eitemau y gellid ac y dylid eu hailgylchu yn dal i gael rhoi gyda’r gwastraff cyffredinol, sydd yn broblem fawr.

Mae’r llun uchod yn dangos gwerth oddeutu wythnos o blastig ailgylchadwy a ganfuwyd gyda’r gwastraff cyffredinol yn un o’n canolfannau ailgylchu.

EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…

Byddai wedi bod yn rhwydd iawn ailgylchu’r eitemau hyn. Byddai’r bobl wnaeth ddim eu hailgylchu hefyd wedi manteisio ar fwy o le yn eu biniau a byddai’r plastig wedi’i gasglu’n wythnosol, yn wahanol i’r biniau gwastraff cyffredinol.

Fe allwn ni, ac mae’n rhaid i ni wneud yn well na hyn.

Dyma beth o’r plastig y daethom o hyd iddo yn eich gwastraff cyffredinol
Mwy o blastig a ganfuwyd gyda’r gwastraff cyffredinol 1
Dyma beth o’r plastig y daethom o hyd iddo yn eich gwastraff cyffredinol
Mwy o blastig a ganfuwyd gyda’r gwastraff cyffredinol 2

Gadewch i ni gyrraedd 70%

Os bydd pob un ohonom yn cymryd cyfrifoldeb dros ein hailgylchu ein hunain, yna gallwn ni yn Wrecsam hawlio ein bod yn gwneud ein rhan dros yr amgylchedd.

Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae pob darn bychan o ailgylchu – dim ots pa mor fach mae’n ymddangos – yn gwneud gwahaniaeth. Mae’r lluniau yn yr erthygl hon yn dangos bod llawer o le o hyd i ni wella, ond mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd.

“Felly cyn i chi daflu rhywbeth yn y bin, edrychwch i weld os ydi o’n rhywbeth y gallwch ei ailgylchu, Dyma sut y gallwn ni i gyd wella a chwarae ein rhan er mwyn taro ein targed ailgylchu o 70% erbyn 2024/25.”

Golchwch y cynwysyddion

Er mwyn gofalu bod y plastig yr ydych yn ei ailgylchu o safon dda, gofynnwn i chi ei olchi er mwyn cael gwared ar y rhan fwyaf o unrhyw fwyd neu ddiod sydd ar ôl ynddo.

Nid ydym yn gofyn i chi dreulio oriau’n gwneud hyn, dim ond eich bod yn golchi’r cynwysyddion yn sydyn yn y dŵr sydd ar ôl wedi i chi olchi’r llestri fel eu bod nhw’n weddol lân – mae gwneud hyn yn golygu y gellir eu troi’n gynnyrch o ansawdd llawer gwell.

Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_24″] COFRESTRU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Chirk Y diweddaraf: Digwyddiad yn Y Waun 16.01.20
Erthygl nesaf Arddangosfa "hynod boblogaidd" Tŷ Pawb wedi hymestyn Arddangosfa “hynod boblogaidd” Tŷ Pawb wedi hymestyn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English