Y newyddion da yw y gallwch chi ailgylchu cardfwrdd ar ymyl y palmant, ac mae’r mwyafrif ohonon ni yma yn Wrecsam yn gwneud hyn 🙂
Ond mae ein tîm ailgylchu wedi tynnu ein sylw ni at y ffaith nad ydyn ni’n ailgylchu cardfwrdd yn hollol gywir. Mae angen i ni wneud ychydig o fân addasiadau i wneud ein rhan yn iawn dros Wrecsam a bod yn archarwyr ailgylchu.
Felly dyma esboniad sydyn o sut y gallwch chi ailgylchu bocsys cardfwrdd yn gywir yn Wrecsam.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Tynnwch bopeth ychwanegol
Ia, popeth! Felly fe ddylech chi dynnu unrhyw dâp, styffylau, papur swigod, haenau plastig ac ati oddi ar eich bocs cardfwrdd cyn ei ailgylchu.
Yn anffodus, dydi rhai ohonon ni ddim yn gwneud hyn…rydyn ni’n tynnu ein heitem o’r bocs heb feddwl pa ddeunyddiau eraill rydyn ni’n eu gadael ar ôl.
Mewn rhai achosion yn ein canolfannau ailgylchu, rydyn ni wedi dod ar draws dillad, matiau, plastigau cymysg a choeden Nadolig hyd yn oed wedi’u gadael y tu mewn i’r bocsys cardfwrdd!
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Cyn ailgylchu bocsys cardfwrdd, rydyn ni’n gofyn i bobl ystyried pa ddeunyddiau eraill y gallen nhw fod wedi’u gadael y tu mewn neu’n sownd i’r bocs.
“Yr unig ddeunyddiau y dylech chi fod yn eu rhoi i mewn yn y sach glas neu’r bocs olwynion uchaf yw cardfwrdd a phapur, felly fe ddylech chi dynnu unrhyw bapur swigod, haenau plastig neu dâp cyn eu rhoi i mewn. Mae hyn yn rhywbeth bach y gall pobl ei wneud i helpu, sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr.”
Gwasgwch y bocsys yn fflat
Os byddwch chi’n gwasgu’ch bocsys yn fflat cyn eu hailgylchu yn eich bag glas/bocs uchaf y bin olwynion, byddwch yn gadael llawer iawn mwy o le i weddill eich cardfwrdd a phapurau. Ac fel y gwyddom ni, mae Gwagle’n beth Gwych!
Mae hyn hefyd yn gadael i ni gasglu’r deunyddiau ailgylchu yn llawer iawn mwy effeithiol, felly mae pawb yn elwa 🙂
Ond os bydd eich bocs/bag yn dal i fod yn llawn dop, gallwch adael cardfwrdd/papurau ychwanegol mewn bag plastig clir (er mwyn i’r criw weld beth sydd y tu mewn), ac fe wnawn ni ei ailgylchu a gadael y bag plastig clir i chi gael ei ailddefnyddio.
Ond mae’n bwysig peidio â chymysgu deunyddiau wrth wneud hyn; er enghraifft, peidiwch â llenwi bag at ei hanner gyda phapur/cardfwrdd a’r hanner arall gyda phlastig. Yn yr achos hwn, gwahanwch y deunyddiau fel y byddech chi’n ei wneud gyda gweddill eich ailgylchu: rhowch bapurau/cardfwrdd mewn un bag a phlastigau mewn bag arall.
Peidiwch ag anghofio am ein canolfannau ailgylchu
Os oes gennych chi ormodedd o gardfwrdd, gallwch wastad fynd ag ef i unrhyw un o’n tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam.
Mae bin penodol ym mhob canolfan ailgylchu ar gyfer cardfwrdd gwrymiog brown yn unig, ac mae yna finiau eraill ar gyfer papurau cymysg, lle gallwch chi roi’ch holl bapurau, papurau newydd, cylchgronau a phecynnau cardfwrdd eraill. Felly mae’n well gwahanu eich cardfwrdd gwrymiog brown oddi wrth y gweddill ymlaen llaw.
I’ch atgoffa, dyma leoliadau ein canolfannau ailgylchu:
• Lôn y Bryn, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam
• Y Lodge, Brymbo
• Banc Wynnstay, Plas Madoc
Fel bob amser, diolch i chi am ailgylchu a gwneud eich rhan dros Wrecsam 🙂
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION