Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dyma sut mae ysgolion Wrecsam yn cymryd camau bach i achub y blaned (a gallwch chi wneud yr un peth)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Dyma sut mae ysgolion Wrecsam yn cymryd camau bach i achub y blaned (a gallwch chi wneud yr un peth)
Busnes ac addysgFideoY cyngor

Dyma sut mae ysgolion Wrecsam yn cymryd camau bach i achub y blaned (a gallwch chi wneud yr un peth)

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 22, 2019 5:38 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
RHANNU

Mae ysgolion ar draws Wrecsam yn parhau i wneud eu rhan yn yr ymdrech i leihau plastig ac achub y blaned.

Cynnwys
  • Felly, pa fath o newidiadau rydyn ni’n eu gwneud?
  • “Mae’n bwysig iawn…”
  • Ein haddewid

Mae ambell newid bach ond pwysig yn cael ei wneud yn ffreuturau ysgolion ar draws y sir, yn rhan o ymrwymiad Cyngor Wrecsam i gael gwared â phlastig untro – y plastig sy’n anodd ei ailgylchu ac sy’n tueddu i gael ei ddefnyddio unwaith ac yna ei daflu.

Dyma sut mae ysgolion Wrecsam yn cymryd camau bach i achub y blaned (a gallwch chi wneud yr un peth)

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae gormod o blastig yn broblem fyd-eang sy’n niweidio’r amgylchedd ac yn llygru’r môr.

“Mae rhaglenni fel Blue Planet y BBC wedi tynnu sylw at y mater ac os na wnawn ni rywbeth heddiw, cenedlaethau’r dyfodol – plant heddiw – fydd yn gorfod delio â’r llanast.”

EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…

Felly, pa fath o newidiadau rydyn ni’n eu gwneud?

Mae’r Cynghorydd Bithell yn egluro: “Rydyn ni’n gwneud newidiadau calonogol yn rhan o’n haddewid i leihau plastig untro… ac enghraifft wych o hyn yw’r newidiadau yn ffreuturau ein hysgolion.

“Mae ein gwasanaeth harlwyo yn yr ysgolion yn mynd i’r afael â’r broblem drwy gynnig ffyrc pren yn lle rhai plastig, sy’n gallu cael eu hailgylchu fel gwastraff bwyd.

“Efallai bod hyn yn swnio fel cam bach, ond pe bai pawb yn dechrau gwneud newidiadau bach – fel unigolion a sefydliadau – y gobaith yw y bydd yn newid mawr yn y tymor hir.”

Mae’r camau rydyn ni’n eu cymryd yn ffreuturau ein hysgolion uwchradd yn cynnwys:

• Ffyrc pren yn lle rhai plastig, sy’n gallu cael eu hailgylchu fel gwastraff bwyd.

• Cael gwared â chwpanau plastig untro o beiriannau dŵr (gan annog disgyblion i ddefnyddio poteli a gwydrau mae posib’ eu hailddefnyddio).

• Rydyn ni hefyd yn edrych ar opsiynau pydradwy yn lle’r bocsys brechdanau plastig sy’n cael eu defnyddio yn ein hysgolion uwchradd.

Yn ein ffreuturau mewn ysgolion cynradd, rydyn ni wedi cael gwared â’r potiau plastig untro a oedd yn cael eu defnyddio i ddal pwdinau ac wedi cael rhai i’w hailddefnyddio yn eu lle.

“Mae’n bwysig iawn…”

Dywedodd Moira Tennant, y Cogydd sydd wrth y llyw yn Ysgol Uwchradd Rhosnesni: “Mae ein ffreutur yn cymryd camau i wella pethau.

“Er enghraifft, dydyn ni ddim yn defnyddio ffyrc plastig bellach ac rydyn ni wedi cael gwared â’r cwpanau plastig o’r peiriant dŵr.

“Rydyn ni wastad yn chwilio am ffyrdd i geisio gwella.”

Dyma sut mae ysgolion Wrecsam yn cymryd camau bach i achub y blaned (a gallwch chi wneud yr un peth)
Dyma sut mae ysgolion Wrecsam yn cymryd camau bach i achub y blaned (a gallwch chi wneud yr un peth)
Dyma sut mae ysgolion Wrecsam yn cymryd camau bach i achub y blaned (a gallwch chi wneud yr un peth)
Dyma sut mae ysgolion Wrecsam yn cymryd camau bach i achub y blaned (a gallwch chi wneud yr un peth)

Mae’r disgyblion yn awyddus i gymryd rhan a dysgu am ailgylchu hefyd.

Dywedodd Freddie, disgybl yn Ysgol Gynradd Maes y Mynydd: “Dwi wedi dysgu llawer am ailgylchu yn yr ysgol, a dwi a fy ffrindiau’n gwybod be’ sy’n gallu cael ei ailgylchu a be’ sydd ddim.

“Mae’n bwysig iawn ailgylchu gymaint ag ydyn ni’n gallu”.

Rydyn ni hefyd wedi bod yn defnyddio ein cyfleusterau addysg i ddangos i blant i ble mae eu gwastraff ailgylchu’n mynd. Mae nifer o ysgolion wedi ymweld â’r Ystafell Addysg yng Nghanolfan Ailgylchu Lôn y Bryn i fod yn rhan o weithdai rhyngweithiol.

Mae ffenestr wylio’n caniatáu i ddisgyblion weld sut mae deunyddiau ailgylchu’n cael eu bwndelu er mwyn mynd â nhw i’w hailgylchu’n gynhyrchion newydd.

Roedd un dosbarth wedi’u synnu gymaint, maen nhw wedi llunio cyflwyniad er mwyn dweud wrth weddill yr ysgol beth roeddent wedi’i ddysgu.

Ein haddewid

Mae’r gwaith yn ein hysgolion yn rhan o addewid ehangach Cyngor Wrecsam i ddefnyddio llai o blastig untro.

Dywedodd y Cynghorydd Bithell: “Rydym ni eisiau chwarae ein rhan i helpu Wrecsam i fod ar flaen y gad o ran ailgylchu yng Nghymru.

“I wneud hyn, rydyn ni wedi gwneud addewid i leihau plastig untro ar draws y fwrdeistref sirol – ac mae hynny’n cynnwys lleihau faint rydyn ni’n ei ddefnyddio yn ein hysgolion ac yn adeiladau a chyfleusterau eraill y Cyngor.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd ein haddewid yn un mae’r cyhoedd yn ei rhannu, a byddwn yn annog pawb yn Wrecsam – yn gartrefi a busnesau – i gymryd rhan drwy leihau faint o blastig untro maen nhw’n ei ddefnyddio hefyd.

“Mae pobl yn Wrecsam yn gwneud gwaith gwych wrth ailgylchu, a dyma gam arall y gallant ei gymryd gyda ni i helpu’r amgylchedd a chreu gwell dyfodol.”

Faint ydych chi’n ei wybod am blastig untro? Rhowch gynnig ar ein cwis…

[interact id=”5c5063a975b7dc00142e6072″ type=”quiz”]

Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_24″] COFRESTRU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cynhaliwyd Brecwast Busnes llwyddiannus cyntaf yn 2019 yn Nhŷ Pawb Cynhaliwyd Brecwast Busnes llwyddiannus cyntaf yn 2019 yn Nhŷ Pawb
Erthygl nesaf Ysgol gynradd yn cael taith gan y Maer Ysgol gynradd yn cael taith gan y Maer

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English