Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen “Dyn a’i Fan?” – Byddwch yn wyliadwrus yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > “Dyn a’i Fan?” – Byddwch yn wyliadwrus yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref
Y cyngor

“Dyn a’i Fan?” – Byddwch yn wyliadwrus yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 26, 2021 2:25 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Household Recycling Centres
RHANNU

Ers i ni ailagor ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, rydym wedi cael adroddiadau o nifer wasanaethau ‘dyn a’i fan’ yn cynnig cael gwared ar wastraff i bobl ar hyn o bryd.

Cynnwys
  • Ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref
  • Dilynwch y 10 rheol ganlynol i gadw pawb yn ddiogel

Mae ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar gyfer gwastraff o gartrefi trigolion Wrecsam yn unig. Ni ellir gwaredu gwastraff masnachol yn y safleoedd hyn, gan gynnwys gwaredu sbwriel gan wasanaethau clirio ‘dyn a’i fan’. Mae holl Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn cael eu monitro a bydd unrhyw un sy’n ymweld yn rheolaidd yn cael eu gwrthod, a gall hyn arwain at dipio eich gwastraff yn anghyfreithlon.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Mae nifer o achlysuron lle mae pobl wedi talu rhywun i waredu eu sbwriel, heb sylweddoli eu bod yn cymryd eu harian a gwaredu’r sbwriel lle bynnag y gallent. Gall hyn eich gadael chi’n atebol os y gellir olrhain y sbwriel yn ôl atoch chi.

Felly, os ydych yn talu rhywun i waredu eich sbwriel, sicrhewch eu bod yn fasnachwyr gonest. Dylent fod â Thrwydded Cludydd Gwastraff. Os nad oes ganddynt y drwydded hon, peidiwch â’u defnyddio – yn fwy na thebyg byddent yn tipio’r gwastraff yn anghyfreithlon a chi fydd yn gyfrifol ac yn atebol i erlyniad os cânt eu dal neu os gellir olrhain y sbwriel yn ôl i chi.

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae enghreifftiau ysgytiol o dipio anghyfreithlon ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae’n costio arian i’w waredu. Rydym bob amser yn gwirio os oes unrhyw beth yn y sbwriel er mwyn canfod y perchennog, ac os oes, ni fyddwn yn oedi cyn erlyn. Defnyddiwch gwmni gydag enw neu ymwelwch ag un o’n tair canolfan ailgylchu gwastraff y cartref. Peidiwch â mentro a bod yn agored i erlyniad, oherwydd ymddygiad amheus rhywun arall.”

Ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref

  • Bryn Lane – 8am a 8pm yn ddyddiol
  • Plas Madoc – 9am a 8pm yn ddyddiol.
  • Brymbo – 9am a 8pm yn ddyddiol. (Apwyntiad yn uni)

Dilynwch y 10 rheol ganlynol i gadw pawb yn ddiogel

  1. Peidiwch â mynd i’r safleoedd os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich aelwyd symptomau o Covid-19, neu os ydych chi’n cael eich gwarchod am fod gennych gyflwr iechyd presennol.
  2. Dewch â gwastraff yr aelwyd yn unig gyda chi. Peidiwch â dod â gwastraff masnachol na gwastraff busnes gyda chi.
  3. Dewch â phrawf gyda chi eich bod yn byw yn y fwrdeistref sirol (e.e. bil cyfleustodau gyda’ch cyfeiriad arno). Mae’r safleoedd hyn ar gyfer preswylwyr Wrecsam yn unig. Os nad oes gennych brawf eich bod yn byw yma, ni chewch adael eich sbwriel. Ffoniwch 01978 801463 i drefnu apwyntiad os hoffech chi ddefnyddio safle Brymbo. 
  4. Byddwch yn amyneddgar os bydd rhaid i chi aros mewn ciw. Ni chaniateir mwy na phump cerbyd ar y safle ar un adeg.
  5. Sicrhewch mai dim ond un person sydd yn dod allan o’r cerbyd er mwyn dadlwytho, a’u bod yn dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol.
  6. Peidiwch â dod ag eitemau sydd yn rhy fawr neu’n rhy drwm i chi eu cario eich hun. Ni fydd ein gweithwyr yn cael eich helpu i ddadlwytho eich car, na chael gwared ar eich gwastraff.
  7. Sortiwch eich gwastraff cyn i chi gyrraedd (er mwyn i chi fod yn gyflym).
  8. Byddwch yn gwrtais. Ni fyddwn yn goddef ymddygiad ymosodol tuag at ein staff. Bydd gan weithwyr ar y safle gamerâu a wisgir ar y corff.
  9. Peidiwch â chyffwrdd eich wyneb ar y safle, a dewch â’ch hylif diheintio dwylo eich hun os allwch chi (glanhewch eich dwylo gyda’r hylif cyn i chi yrru nôl am adref).
  10. Os oes gennych chi eitemau ar gyfer y siop ailddefnyddio (e.e. beiciau a nwyddau eraill mewn cyflwr y gellir eu defnyddio eto) gadewch nhw adref am rŵan.

Os byddwch chi’n ymweld â’ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref lleol tra bod y safle ar gau ac yn gadael eich sbwriel y tu allan i’r giatiau, caiff hyn ei ystyried yn dipio anghyfreithlon. Fe fyddwch chi’n torri’r gyfraith, a byddwch yn debygol o gael dirwy neu orfod mynd i’r llys.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ruabon Station Mynediad i orsaf Rhiwabon yn parhau i fod yn uchel ar yr agenda
Erthygl nesaf Covid-19 “Sut fydda’ i’n gwybod os bydd galwad gan rywun sy’n olrhain cysylltiadau yn ddilys?” Dilynwch y cyngor yma…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English