Mae ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar gyfer gwastraff o gartrefi trigolion Wrecsam yn unig. Ni ellir gwaredu gwastraff masnachol yn y safleoedd hyn, gan gynnwys gwaredu sbwriel gan wasanaethau clirio ‘dyn a’i fan’.
Os oes gennych lawer iawn o sbwriel i’w waredu, sicrhewch eich bod yn defnyddio cwmni gydag enw da i wneud hyn ar eich rhan. Ni all y cwmni sy’n gweithredu ar eich rhan waredu’r eitemau yn ein canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref, rhaid iddynt ei waredu mewn cyfleuster trwyddedig preifat.
Mae nifer o achlysuron lle mae pobl wedi talu rhywun i waredu eu sbwriel, heb sylweddoli eu bod yn cymryd eu harian a gwaredu’r sbwriel lle bynnag y gallent. Gall hyn eich gadael chi’n atebol os y gellir olrhain y sbwriel yn ôl atoch chi.
Byddwch yn ymwybodol – dim gwastraff masnach!
Mae system adnabod cerbydau yn gweithredu yn y tair Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref a bydd ymwelwyr rheolaidd mewn faniau yn cael eu herio a gofynnir iddynt lenwi ffurflenni ‘ymwadiad gwastraff masnachol’, er mwyn sicrhau nad yw’r safleoedd hyn yn cael eu camddefnyddio gan fasnachwyr. Er mwyn cadw’r safleoedd yn glir o wastraff masnach, gall Adran yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint, sy’n rheoli’r safleoedd ar ran y Cyngor, wahardd yr unigolion hyn o’r tri safle.
Felly, os ydych yn talu rhywun i waredu eich sbwriel, sicrhewch eu bod yn fasnachwyr gonest. Dylent fod â Thrwydded Cludydd Gwastraff. Os nad oes ganddynt y drwydded hon, peidiwch â’u defnyddio – yn fwy na thebyg byddent yn tipio’r gwastraff yn anghyfreithlon a chi fydd yn gyfrifol ac yn atebol i erlyniad os cânt eu dal neu os gellir olrhain y sbwriel yn ôl i chi.
“Ni fyddwn yn oedi cyn erlyn”
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae enghreifftiau ysgytiol o dipio anghyfreithlon ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae’n costio arian i’w waredu. Rydym bob amser yn gwirio os oes unrhyw beth yn y sbwriel er mwyn canfod y perchennog, ac os oes, ni fyddwn yn oedi cyn erlyn. Defnyddiwch gwmni gydag enw da neu ddefnyddiwch ein gwasanaeth casgliadau swmpus neu ymwelwch ag un o’n tair canolfan ailgylchu gwastraff y cartref. Peidiwch â mentro a bod yn agored i erlyniad, oherwydd ymddygiad amheus rhywun arall.”
Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus Cyngor Wrecsam…
Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth casglu gwastraff swmpus Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae gwastraff swmpus yn golygu eitemau sy’n rhy fawr i gael eu casglu gan y gwasanaeth gwastraff arferol. Golyga hyn eitemau megis dodrefn, nwyddau gwyn ac offer yr ardd. Gellir casglu hyd ar wyth eitem am isafswm o £43.50. Bydd ffi ychwanegol ar gyfer casglu unrhyw eitem ychwanegol dros yr wyth eitem.
Rydym yn derbyn:
• Dodrefn (e.e. byrddau, cadeiriau, swît, gwelyau, matresi , cabinetau, desgiau, silffoedd llyfrau, cypyrddau dillad).
• Nwyddau gwyn (e.e. oergelloedd, rhewgelloedd, poptai, peiriannau sychu dillad, microdonnau).
• Offer yr ardd (e.e. peiriannau torri gwair bychain, teclynnau’r ardd, byrddau a chadeiriau’r ardd, barbeciws, beiciau).
• Carpedi (symiau bychain o garpedi ac isgarpedi (darnau heb fod yn fwy na maint 1 ystafell).
• Cyfarpar trydanol ac electronig (e.e. cyfrifiaduron, teledu).
Mae’r Cyngor ond yn cynnig casgliad ymyl palmant o wastraff gardd/organig yn y bin gwyrdd, nid ydym yn cynnig unrhyw wasanaeth casglu arall ar gyfer gwastraff gwyrdd, pridd na rwbel.
Bydd casgliadau swmpus fel arfer yn cael eu cyflawni ar eich diwrnod casglu nesaf, os y byddwch yn hysbysu 2 ddiwrnod gwaith ymlaen llaw. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y casgliadau swmpus yma
Ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref
- Mae Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Bryn Lane ar agor o 8am – 8pm bob dydd o’r flwyddyn oni bai am Ddydd Nadolig.
- Ar hyn o bryd mae Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ym Mhlas Madoc a The Lodge ar agor o 9am – 4pm
Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch
COFRESTRWCH FI RŴAN