Ym mis Mawrth 2017, lansiodd Llywodraeth Cymru God Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Mae’r Cod wedi’i ddylunio i waredu caethwasiaeth fodern a chefnogi arferion cyflogi moesegol.
I nodi bod 150 wedi cofrestru hoffem eich gwahodd i’n digwyddiad dathlu yng Ngogledd Cymru:
Amser: 10:00 – 14:00
Dyddiad: Dydd Iau, 10 Ionawr 2019
Lleoliad: Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam
Bydd y digwyddiad yn cynnwys:
- Araith allweddol a chyfle am lun gyda Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.
- Trosolwg gan Sue Hurrell, Arweinydd Prosiectau Arbennig, Llywodraeth Cymru.
- Astudiaeth achos ar sut mae un sefydliad yn gweithredu’r Cod.
- Cyfle i ddysgu pa gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer y sefydliadau sy’n cofrestru, yn enwedig mewn perthynas â’r Cyflog Byw.
Mae hwn yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o’r Cod a rhwydweithio gyda sefydliadau eraill. Gofynnir i chi wahodd eich cyflenwyr allweddol.
Darperir cinio.
I gael rhagor o fanylion, neu i gofrestru i fynychu anfonwch e-bost at: VWPolicy@gov.wales
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR