Diolch yn fawr
Ar hyn o bryd mae ysgolion a cholegau ond ar agor i blant gweithwyr allweddol, a dysgwyr sydd angen cwblhau arholiadau neu asesiadau hanfodol.
Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws
Mae’r rhan fwyaf o rieni a gofalwyr unwaith eto’n ceisio cydbwyso eu dyletswyddau arferol a’u hymrwymiadau gwaith, yn ogystal â helpu gyda dysgu o gartref.
Dywedodd y Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol dros Addysg: “Rydym yn gwybod nad yw’r cyfnod clo presennol wedi bod yn rhwydd i nifer o’n pobl ifanc felly hoffwn ddweud DIOLCH YN FAWR iawn iawn i bob un ohonoch am gynorthwyo athrawon i ddarparu dysgu o gartref.
Nid oes disgwyl i rieni a gofalwyr fod yn athrawon ond mae’r gefnogaeth rydych yn ei rhoi yn gwneud llawer i helpu dysgwyr i fod yn llawn cymhelliant ac yn edrych ar ôl eu lles. Mae canmol ymdrechion gorau dysgwr yn arf cymell synhwyrol i’w ddefnyddio i gynnal ffocws dysgwyr nes y gall ysgolion ailagor unwaith eto i bawb.”
Cadwch mewn cysylltiad
Gwnewch yn siŵr eich bod yn parhau i gyfathrebu gydag ysgol eich plant gan y gallent gynnig cyngor a chyfarwyddyd wedi ei deilwra ar:
- sut yw’r ffordd orau i gefnogi dysgu gan eich plant
- lle i gael cymorth ar gyfer eu hanghenion penodol
- beth i’w wneud os oes cwestiynau gennych chi neu eich plant am eu gwaith
- cyngor ar gael mynediad ar weithgareddau dysgu ar-lein o gartref.
- cefnogi lles
Addasu i’ch ymrwymiadau
Mae pob ysgol yn Wrecsam ar hyn o bryd yn addysgu drwy ddysgu cyfunol – cyfuniad o ddysgu ar-lein, byw, wedi’i recordio, dysgu o bell a dysgu o lyfr testun, gyda’r gyfran ddigidol yn cael ei dysgu drwy blatfformau fel Hwb, Microsoft Teams a Google Classroom.
Mae maint a chymysgedd y dysgu cyfunol a ddarperir yn llwyr ddibynnol ar ysgol eich plant, gyda grwpiau oedran hŷn ar y cyfan yn cael diwrnod mwy strwythuredig ac wedi’i amserlennu na’r disgyblion iau.
Er y gall diwrnod dysgu strwythuredig fod yn ddefnyddiol, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei deilwra o amgylch eich ymrwymiadau eich hun.
Bydd chwiliad ar-lein syml am ‘home learning structure’ neu ‘home learning timetable’ yn dod â chyfoeth o gyngor a syniadau y gallwch chi eu haddasu i weddu anghenion eich teulu.
Yn aml, mae athrawon yn rhannu gwers awr yn sawl adran, gan fod disgyblion yn dysgu mwy mewn plyciau byr.
Gobeithio y bydd y dull hwn yn gwneud i’r diwrnod fynd heibio yn gyflymach ac yn fwy effeithlon i bawb.
Adnoddau pellach
Mae cyfoeth o ddeunydd addysgol ar-lein y gallwch gael mynediad iddo.
Rydym wedi rhestru rhai adnoddau isod:
Gall athrawon a dysgwyr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru lawrlwytho a gosod yr offer Microsoft Office diweddaraf gan gynnwys Word, Excel a PowerPoint yn ogystal â Minecraft: Education Edition am ddim cost ar hyd at 15 dyfais – drwy Hwb.
Gall defnyddwyr ffonau symudol BT / EE a Plusnet ddefnyddio cynnwys BBC Bitesize o ddiwedd Ionawr heb ddefnyddio eu lwfans data:
BBC Bitesize: Gwersi’n llawn fideos, cwisiau a gweithgareddau ymarfer i helpu gyda dysgu o gartref. Bitesize yn Gymraeg.
Mae gan y sianel Gymraeg S4C raglenni addysgol ar gyfer dysgwyr meithrin, cynradd, uwchradd ac oedolion
Mae’r BBC rŵan yn dangos cynnwys y cwricwlwm ar y Teledu bob diwrnod.
Pecynnau Dysgu Gartref Am Ddim
Cewch Becynnau Dysgu Cartref Blynyddoedd Cynnar, CA1 a CA2 am ddim gan TTS
Mae eu tîm hefyd wedi rhoi ystod o adnoddau gwych at ei gilydd wedi eu cynllunio’n benodol i’ch helpu chi gyda dysgu o gartref.
Great Grub Club – Llawer o weithgareddau llawn hwyl ar fwyd a symudiad
Go Noodle – Ystod o fideos addas i blant ar symudiad ac ymwybyddiaeth ofalgar.
Cyfoeth Naturiol Cymru – mae ganddynt ystod wych o weithgareddau ymarferol o:
- Anifeiliaid, Cynefinoedd a Bioamrywiaeth
- Mathemateg a Rhifedd
- Iaith a Llythrennedd
- Iechyd a lles.
- Synhwyrau Naturiol
- Y Celfyddydau Mynegiannol
NHS Exercise Studio – Dewiswch un o’r 24 fideo a arweinir gan hyfforddwyr ar draws ymarfer corff aerobeg, cryfder ac ymwrthedd, a chategorïau Pilates ac Yoga.
Hefyd, dilynwch gyfryngau cymdeithasol Wrecsam Egniol gan fod ganddynt amserlen o sesiynau chwaraeon dyddiol, ar gael i’w ffrydio am ddim. Facebook Twitter
Dyfeisiau i gael mynediad at adnoddau dysgu o bell
Gellir defnyddio Hwb, MS Teams a Google Classroom ar sawl dyfais allai fod gennych gartref; Cyfrifiaduron, Gliniaduron, Teledu, Consolau Gemau, Ffonau, Dyfeisiau Llechen…
Cyfrifiaduron PC a Mac
Defnyddiwch y porwr i fynd i https://hwb.llyw.cymru i gael mynediad at MS Teams neu Google Classroom.
Chromebook a mynediad at Google Classroom
Os ydych yn defnyddio dyfais sy’n gweithredu Chrome OS, fel y Chromebook, nid oes angen i chi osod yr ap, defnyddiwch yr ap sydd wedi’i osod i gael mynediad at Google Classroom a mewngofnodi gyda’ch cyfrif Hwb.
Ffonau Symudol a Dyfeisiau Llechen (IOS ac Android) – MS Teams a Google Classroom
Mae Office 365, MS Teams a Google Classroom ar gael ar gyfer ffonau clyfar a dyfeisiau llechen Apple IOS ac Android – Ar gael drwy App Store Apple neu Google Play.
Consolau Gemau
PlayStation
Sut i ddefnyddio consol gemau i gael mynediad at Hwb, Office 365, MS Teams a Google Classroom.
Teledu Clyfar
Mae gan y rhan fwyaf o setiau Teledu Clyfar borwr gwe a gallwch gael mynediad at Hwb, Office 365, MS Teams a Google Classroom o’r porwr.
Trosi hen gyfrifiadur PC/Mac yn Chromebook
Os oes gennych hen gyfrifiadur PC neu liniadur nad yw’n gweithredu Windows yn dda iawn, gallai fod yn ddigon da i redeg Chrome OS. Gallwch drosi hen beiriant Windows i Chrome OS am ddim yma:
Meddalwedd trawsnewid Chromebooks Neverware
Canllaw Fideo i Drawsnewid Chromebook
Raspberry Pi
Mae’r Raspberry Pi Foundation yn elusen ym Mhrydain sy’n gweithio i roi grym cyfrifiadura a chreu digidol yn nwylo pobl dros y byd i gyd. Mae Raspberry Pi yn gyfrifiadur cost isel sy’n plygio i mewn i fonitor cyfrifiadur neu Deledu ac yn defnyddio bysellfwrdd a llygoden arferol. Mae’n ddyfais fach alluog sy’n galluogi pobl o bob oed i ddefnyddio cyfrifiaduron.
Mae porwr gwe wedi ei osod ar gyfrifiaduron fforddiadwy fel Pi 400 a gellir ei ddefnyddio i gael mynediad at yr ystod llawn o blatfformau dysgu sydd ar gael drwy Hwb.
CANFOD Y FFEITHIAU