Mae dysgu iaith newydd yn rhywbeth y mae llawer ohonom yn awyddus i’w wneud er mwyn ehangu ein gorwelion a hybu ein sgiliau.
Gall fod yn anodd dod o hyd i’r amser a’r arian am hyn gyda chymaint o bethau eraill yn digwydd yn ein bywydau. Fodd bynnag, mae yno ffordd newydd sbon i bobl feithrin y sgiliau ieithyddol sydd eu hangen arnynt drwy gael gwersi Cymraeg anffurfiol bob wythnos yn rhad ac am ddim.
Yn Nhŷ Pawb bydd dysgwyr yn medru rhoi cychwyn ar feistroli’r Gymraeg heb dalu’r un geiniog, gyda gwersi a gweithgareddau bob dydd Sul rhwng 10am-12pm a 1pm-3pm.
Bydd pob sesiwn yn dechrau gyda gwers anffurfiol am awr i ddysgu’r hanfodion, ac wedyn bydd awr i ymlacio a chwarae gemau, neu gael llymaid bach yn Blank Canvas, wrth siarad Cymraeg a gwrando ar bobl eraill yn siarad.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Mae bod yn amlieithog yn gaffaeliad mawr, ac mae siarad Cymraeg yng Nghymru’n fanteisiol o ran gwaith a chyfleoedd, a meithrin dealltwriaeth o ddiwylliant a threftadaeth Wrecsam a’r genedl gyfan.
Lansiodd Llywodraeth Cymru ei ymgyrch ‘Cymraeg 2050’ yn ddiweddar gyda’r gobaith o weld miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru ymhen oddeutu deng mlynedd ar hugain. Nid oes dim i atal pobl rhag dysgu’r iaith ryfeddol hon a gwella eu sgiliau. Ceir tystiolaeth fod pobl ddwyieithog yn aml yn well am ddatrys problemau, amldasgio a gwneud penderfyniadau, ac mae mwy a mwy o bobl yn dysgu Cymraeg – dim ond rhai o blith llu o resymau dros roi cynnig arni!
Cynhelir y sesiwn cyntaf ddydd Sul, Medi 2 a chynhelir un bob wythnos wedi hynny – os oes arnoch angen mwy o wybodaeth, ffoniwch 01978 292144 neu e-bostiwch TyPawb@wrexham.gov.uk.
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION