Unwaith eto byddwn yn ymuno ag Awr Ddaear ac yn gofyn i’n staff, busnesau a thrigolion i ddiffodd yr holl oleuadau am 8.30pm ar 30 Mawrth am un awr.
Mae’r digwyddiad byd-eang, a drefnwyd gan Gronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF) yn gweld miloedd o bobl yn cymryd rhan a’r goleuadau’n cael eu diffodd mewn adeiladau tirnod fel Palas Buckingham, Cestyll Caerdydd a Chaeredin, Tŷ Opera Sydney a Thŵr Eiffel.
Rydym yn gofyn i’n staff, busnesau a thrigolion ymuno â ni i ddiffodd eu goleuadau am awr ar 30 Mawrth. Nid yw mor anodd â hynny ac mae’n gyfle i eistedd a sgwrsio neu ddarllen, chwarae gêm bwrdd neu ymlacio.
Yn ogystal â chymryd rhan yn yr Awr Ddaear rydym hefyd yn cynnal digwyddiad yn Siambr y Cyngor yma yn Neuadd y Dref i chi ddweud eich dweud ar yr hyn yr ydym wedi bod yn ei wneud i wella ein hamgylchedd a’r hyn y dylem ei wneud. Roeddem yn datgan argyfwng hinsawdd y llynedd ac mae’r gwaith hwn hyd yn oed yn fwy pwysig nawr.
Bydd yn ein helpu i ddatblygu syniadau ar sut y gallwn i gyd weithio gyda’n gilydd i ddatblygu ymateb cryfach i wella ein hamgylchedd yn y dyfodol.
Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 4pm a 6pm dydd Mawrth, 24 Mawrth.
Mae llefydd yn brin, felly archebwch erbyn 5pm dydd Iau, 19 Mawrth 2020.
Gallwch archebu lle drwy ddefnyddio’r ddolen isod:
http://www.yourvoicewrexham.net/arolwg/1066
Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.
RYDW I EISIAU TALU RŴAN