Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Edrychwch ar bwy sydd wedi cael rhagolwg o Tŷ Pawb…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Edrychwch ar bwy sydd wedi cael rhagolwg o Tŷ Pawb…
ArallPobl a lle

Edrychwch ar bwy sydd wedi cael rhagolwg o Tŷ Pawb…

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 30, 2018 9:18 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Edrychwch ar bwy sydd wedi cael rhagolwg o Tŷ Pawb...
RHANNU

Does ond ychydig o wythnosau tan agoriad swyddogol Tŷ Pawb – cyfleuster marchnad, cymunedol a chelfyddydol gwerth £4.5m Wrecsam sydd wedi ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Wrecsam, Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Cynnwys
  • Mae’r ystafelloedd bron yn barod
  • Cwt y bugail
  • Dod â chelfyddyd a diwylliant i’n stepen drws

Ond, tra bydd yn rhaid i rai ohonom ni aros tan yr agoriad swyddogol (Dydd Llun Pawb ar 2 Ebrill – cofiwch ei nodi yn eich dyddiadur), mae grŵp o blant lwcus wedi cael taith unigryw o gwmpas y cyfleuster newydd wrth i’r gwaith dynnu tua’r terfyn.

CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

Mae grŵp o ddisgyblion uwchradd o Ysgol y Grango wedi ymweld, ynghyd â phlant Hafod y Wern ac Ysgol y Santes Fair – ac fe gafodd yr athrawon ddod am dro hefyd!

Edrychwch ar bwy sydd wedi cael rhagolwg o Tŷ Pawb...
Disgyblion o Ysgol St Mary’s. Hefyd yn y llun (chwith i dde): Kelly Jones (The Consortium), Ellie Ashby (Cynorthwyydd Oriel, CBSW), Miss Heather Williams (Ysgol St Mary’s), Y Cyng. Phil Wynne (Aelod Arweiniol Pobl – Addysg), Mrs Sarah Chapman (Ysgol St Mary’s), Y Cyng. Hugh Jones (Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Pobl – Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau), Alison Hourahine (Wynne Construction) ), Alison Hourihane (Wynne Construction)

Mae’r ystafelloedd bron yn barod

Fel rhan o’r daith cafodd y plant gyfle i weld y gofodau newydd cyffrous a fydd, cyn bo hir, yn llawn arddangosfeydd a chynulleidfaoedd digwyddiadau cymunedol, celfyddydol a diwylliannol.

Roedd y rhain yn cynnwys y neuadd farchnad newydd, lle bydd masnachwyr yn galw heibio gyda hyn i godi eu stondinau yn barod ar gyfer yr agoriad, yr ardal berfformio fawr newydd ac Oriel Un, yr ystafell arddangos anhygoel sydd â system reoli hinsawdd i ddiogelu arddangosfeydd bregus.

Cafodd y plant hefyd gyfle i weld lluniau a chynlluniau Tŷ Pawb, gan gynnwys lluniau o’r hen adeilad i weld faint o waith sydd wedi ei wneud i drawsnewid hen Farchnad y Bobl yn adeilad modern a thrawiadol.

Edrychwch ar bwy sydd wedi cael rhagolwg o Tŷ Pawb...
Edrychwch ar bwy sydd wedi cael rhagolwg o Tŷ Pawb...
Edrychwch ar bwy sydd wedi cael rhagolwg o Tŷ Pawb...
Edrychwch ar bwy sydd wedi cael rhagolwg o Tŷ Pawb...

Cwt y bugail

Roedd yna hefyd rhywbeth anghyffredin iawn yng nghanol y concrid a’r briciau – cwt bugail traddodiadol! Yn ystod 2015/16, comisiynodd yr oriel Antonia Dewhurst i weithio gyda Phartneriaeth Parc Caia a Sêr Wrecsam i ddylunio ac adeiladu Cwt Bugail.

Roedd y prosiect yma’n gyfle i bobl ifanc (16-25 oed) i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy i’w helpu nhw ganfod gwaith. Mae’n seiliedig ar ddyluniad y cytiau traddodiadol a fyddai i’w gweld yng nghefn gwlad Cymru ers talwm. Bydd y cwt bugail yn cael ei ddefnyddio fel gofod gweithdy/stiwdio yn Nhŷ Pawb.

Ar ôl i’r brif daith ddod i ben, cymerodd blant Ysgol y Santes Fair ran mewn gweithdy byr i ddylunio eu cytiau bugail eu hunain yn defnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau celf.
Cafodd y daith ei threfnu gan ein tîm yn Oriel Wrecsam, neu Tŷ Pawb cyn bo hir, gyda chefnogaeth ein contractwyr, Wynne Construction, sy’n ymgymryd â’r gwaith adeiladu, a The Consortium, sy’n darparu nwyddau a deunyddiau ar gyfer ein hysgolion.

Bu iddynt ein cefnogi fel rhan o Gynllun Budd Cymunedol h.y. pan fo contractwyr sy’n gweithio i’r Cyngor yn cyfrannu neu’n rhoi rhywbeth sydd o fudd i’r gymuned neu’r economi lleol.

Dod â chelfyddyd a diwylliant i’n stepen drws

Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae’n braf gweld y brwdfrydedd sy’n cael ei ennyn ar gyfer agoriad swyddogol y cyfleuster gwych yma. Mae cynnwys ysgolion a phobl ifanc leol mewn digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol yn mynd i fod yn rhan bwysig o Dŷ Pawb. Mae bob plentyn sydd wedi ymweld wedi rhyfeddu at y cyfleuster a bydd mwy o ymweliadau tebyg yn cael eu cynnal unwaith y bydd y cyfleuster ar agor.”

Meddai’r Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Dyma gyfnod cyffrous iawn i Wrecsam ac rydw i’n credu y bydd y cyfleuster newydd hwn yn adnodd gwerthfawr iawn i’n plant. Bydd yn dod â chelf o’r radd flaenaf at garreg eu drws; ac mae pawb yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weld yr adeilad wedi ei orffen.”

Bydd Tŷ Pawb yn agor i’r cyhoedd ar 2 Ebrill.

Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Our ICT Dept needs you pointing finger Mae ein gwasanaeth TGCh eich angen chi!
Erthygl nesaf Arwyddo Protocol Portiwgaleg am y tro cyntaf yn y DU Arwyddo Protocol Portiwgaleg am y tro cyntaf yn y DU

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi
Arall Pobl a lle
Awst 26, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Pobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 24, 2026
Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English