Wrth i fwy a mwy ohonoch droi at ymgymryd â’ch busnes gyda ni ar-lein, rydym wedi gweld gostyngiad yn y niferoedd sy’n ein ffonio ni ar ôl 5.00pm, felly rydym wedi diwygio amseroedd agor rhai o’n llinellau ffôn.
O fis Medi, yr oriau newydd ar gyfer y rhifau isod fydd 08.30am – 5.00pm.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Wrth i fwy a mwy ohonoch droi at ymgymryd â’ch busnes gyda ni ar-lein, rydym wedi gweld gostyngiad yn y niferoedd sy’n ein ffonio ni ar ôl 5.00pm, felly rydym wedi diwygio amseroedd agor rhai o’n llinellau ffôn.
O fis Medi, yr oriau newydd ar gyfer y rhifau isod fydd 08.30am – 5.00pm.
Mae’r rhifau yr effeithir arnynt fel a ganlyn:
- 292066 – Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ar gyfer oedolion a phobl hŷn
- 298990 – Cyfraddau busnes a thrwyddedu
- 298991 – Derbyniadau i ysgolion, dyddiadau tymor, prydau ysgol am ddim.
- 298992 – Ymholiadau cyfrifon Treth y Cyngor, cefnogaeth Treth y Cyngor, taliadau, budd-daliadau
- 298994 – Caniatâd cynllunio, cyngor a chyfarwyddyd
- 298996 – Bathodynnau glas, tocynnau bws, cludiant ysgol
- 298989 – Casgliadau gwastraff, glanweithdra strydoedd, goleuadau stryd
- 298997 – Mwy o wasanaethau, gan gynnwys genedigaethau, marwolaethau a phriodasau, pleidleisio, swyddi gwag
Rhaid i’r sawl sydd wedi colli eu clyw a/neu sydd â nam iaith sydd am ddefnyddio’r gwasanaeth Cyfnewid Testun roi 18001 cyn y rhif sydd ei angen arnynt.
Gallwch gysylltu â’r cyngor o hyd os oes gennych ymholiad brys ar 01978 292055 ar ôl 5.00pm.
Bydd y rhif Atgyweiriadau Tai, 298993, yn parhau i weithredu rhwng 8.30am a 5.30pm
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI