Mae ailgylchu eich gwastraff domestig yn llawer symlach nag ydych chi’n ei feddwl…
Yn hytrach na gwasgu popeth i’r bin du domestig tan ei fod o’n gorlwytho, mae ailgylchu’n gywir yn caniatáu i chi gael mwy o le ac yn rhoi sawl budd i’r amgylchedd.
“Iawn, ond beth sy’n mynd i ble?”
A, y cwestiwn y mae pawb yn ei ofni, “ble ddylwn i roi hyn, llall ac arall?” Ond nid oes angen ei ofni.. dyma ganllaw syml iawn ar sut i ailgylchu eich gwastraff domestig.
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Y Bocs Olwynion
Dyna ni, yr un â thair haen iddo. Dyma restr sydyn o beth y dylid eu rhoi ym mhob bocs:
(Os nad oes gennych focs olwynion eto, ymwelwch â’n gwefan i gael canllaw ar sut y gallwch ailgylchu’r eitemau hyn yn eich bocsys/bagiau.)
Y Bocs Uchaf
• Pecynnau cardbord
• Cardbord rhychiog
• Post sothach
• Papur Newydd
• Cylchgronau
• Llyfrau Melyn
• Catalogau
• Papur wedi’i rwygo
• Amlenni
• Tiwbiau papur toiled
• Bocsys wyau cardbord
• Bocsys mawr (rhaid rhwygo’r rhain a’u gosod yn y bocs)
Y Bocs Canol
• Poteli plastig
• Potiau plastig
• Hambyrddau plastig
• Tybiau plastig
• Caniau
• Tuniau
• Aerosolau
• Ffoil glân
Y bocs gwaelod
• Poteli gwydr
• Jariau gwydr
Ni ddylid rhoi gwydrau sydd wedi torri, cartonau bwyd a diod, clytiau budr, haenen lynu (cling ffilm) neu bacedi creision yn unrhyw un o’r bocsys.
Bin Gardd Gwyrdd
Gellir defnyddio hwn i ailgylchu’r canlynol:
• Toriadau gwair
• Toriadau perthi a llwyni
• Blodau marw
• Chwyn
Ni ddylid rhoi pridd, coed, brigau, clymog Japan, tail anifeiliaid nag unrhyw fath o gardbord yn y rhain.
Cadi ymyl palmant llwyd
Gellir rhoi’r canlynol mewn bagiau compost ac yna dylid eu rhoi yn y cadi:
• Ffrwythau a llysiau – amrwd ac wedi’u coginio
• Cig a physgod – amrwd ac wedi’u coginio
• Esgyrn a Chregyn Wyau
• Reis, pasta, grawnfwydydd a nwdls
• Bara, cacennau, crwst a bisgedi
• Bagiau te a choffi mâl
• Caws, wyau ac iogwrt
• Ffa, cnau, corbys a hadau
• Bwyd sydd heb ei fwyta o’ch plât
Ni ddylid rhoi bagiau cario na phecynnau bwyd yn y rhain.
Gallwch ailgylchu llawer mwy o eitemau yn unrhyw un o’r canolfannau ailgylchu domestig sydd gennym yn Wrecsam.
Gobeithio bod gennych well dealltwriaeth bellach o sut i ailgylchu yn gywir. Mae o wir yn haws nag ydych chi’n ei feddwl.
Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU