Yn ddiweddar, cymerom ran mewn ymgynghoriad ar ddiwygio System Gyfrifoldeb Cynhyrchwyr Pecynnau’r.
Gofynnodd yr ymgynghoriad am farn ar y mesurau arfaethedig i ‘leihau nifer y pecynnau diangen ac anodd eu hailgylchu a chynyddu nifer y pecynnau y gellir eu hailgylchu ac sy’n cael eu hailgylchu, drwy ddiwygio rheoliadau cyfrifoldeb cynhyrchwyr pecynnau’.
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Croesawom y cyfle i gyflwyno ein barn yn yr ymgynghoriad ac ymatebom yn gryf ar ran Wrecsam ynglŷn â sut y dylai’r cynhyrchwyr gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu pecynnu.
“Datganom ein barn ynglŷn â sut i fynd ati i leihau pecynnau diangen ac anodd eu hailgylchu, a phwysleisiom bwysigrwydd rhoi gwybodaeth glir i’r cyhoedd am ailgylchu mewn perthynas â’r pecynnau maent yn eu defnyddio… gan mai gyda’r wybodaeth hon yn unig y gallant wneud penderfyniadau gwybodus.”
Cafwyd 95 o gwestiynau i gyd yn yr ymgynghoriad, felly nid oes modd i ni gyfeirio at bopeth, ond dyma rai o’r pwyntiau pwysig a gafodd eu gwneud:
• Mae llawer gormod o becynnau diangen a phecynnau anodd eu hailgylchu fel mae pethau ar hyn o bryd
• Dylai busnesau orfod talu costau net llawn unrhyw becynnau a gynhyrchwyd sydd angen eu gwaredu
• Dylai cynhyrchwyr orfod ariannu costau casglu a rheoli gwastraff pecynnau’r cartref a rhai tebyg i rai’r cartref
• Dylid gohirio unrhyw gynllun blaendal dychwelyd arfaethedig tan ar ôl i’r EPR (Dyletswydd cynhyrchwr estynedig) arfaethedig a newidiadau cysondeb gael eu cyflwyno a chael amser i setlo i mewn
• Byddai gwell labelu yn helpu addysgu o ran yr hyn y gallwn ac na allwn ei ailgylchu
• Dylai fod yn orfodol i gynhyrchwyr labelu eu pecynnau fel rhai ‘ailgylchadwy’ ac ‘anailgylchadwy’
Eisiau gwybod mwy am y pecynnau rydych yn eu defnyddio? Cwblhewch y cwis ar blastigion untro a gweld sut hwyl y cewch chi…
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU