Mae’n rhaid i ni wneud llawer o benderfyniadau ynglŷn â’n sefyllfa ariannol, a sut rydym ni’n mynd i wario a buddsoddi yn y dyfodol agos.
Rydym wedi amlinellu ein sefyllfa ariannol yn ddiweddar, ynghyd â’r mathau o doriadau y bydd yn rhaid i ni eu gwneud dros y blynyddoedd sydd i ddod.
Ond roeddem hefyd eisiau nodi sut rydym ni’n mynd i fuddsoddi a gwario dros y blynyddoedd nesaf hefyd.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael isod…
Y Rhaglen Gyfalaf
Amcangyfrif o gyfanswm y gwariant cyfalaf yn 2019/20 – yn cynnwys y Cyfrif Refeniw Tai sydd yn galluogi i ni wneud gwelliannau i’n stoc dai – ydi £89miliwn; tua £8.5m yn fwy na’r swm y cymeradwyodd y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf.
Daw’r prif gynnydd oherwydd cynnydd mewn gwariant ar brosiectau nad ydynt yn Gyfrif Refeniw Tai a rhaglen gyfalaf Cyfrif Refeniw Tai.
Mae ein prif Raglen Gyfalaf wedi’i llunio o fenthyg – gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru – grantiau, cyfraniadau, derbyniadau cyfalaf rydym yn eu cael o werthiannau, benthyca darbodus a benthyciadau di-log gan Lywodraeth Cymru a Salix.
Mae’r Rhaglen Gyfalaf yn rhan o’n prosesau ariannol arferol – er mwyn sicrhau ein bod yn gwybod beth fydd ein blaenoriaethau gwario yn y dyfodol agos, rydym yn cynllunio unrhyw fuddsoddiad mawr ac yn eu trafod yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol.
Gwariant sydd wedi’u trefnu ar gyfer 2023/24
Yn ogystal ag adolygu ein gwariant presennol, rydym wedi cynllunio ein gwariant cyfalaf ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod, gyda chymorth Grŵp Strategaeth Adeiladau a Thir Corfforaethol.
Rydym wedi edrych ar rywfaint o’r gwariant y gallwn ei wneud yn 2023/2024 – a bydd ein Bwrdd Gweithredol yn trafod a fyddant yn eu cymeradwyo neu beidio ar ddydd Mawrth.
Prosiect | Dyraniad y Gofynnwyd Amdano 2023/24 £000 | Dyraniad Arfaethedig 2023/24 £000 |
Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B | 1,000 | 1,000 |
Gwelliannau i Isadeiledd Priffyrdd | 1,000 | 750 |
Cynllun Treftadaeth Treflun Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam | 359 | 200 |
Ailosod ffenestri – Ysgol Uwchradd Rhosnesni | 422 | 200 |
Ailosod ffenestri – Ysgol Uwchradd Clywedog | 2,215 | 200 |
Grant Cyfleusterau Anabledd | 1,200 | 950 |
6,196 | 3,300 |
Fe amlinellwyd buddsoddiad hefyd ar gyfer Cynigion Treftadaeth a Lles Cymunedol ar gyfer yr un flwyddyn ariannol, fel a ganlyn:
Cynigion Treftadaeth a Lles Cymunedol | Dyraniad y Gofynnwyd Amdano 2023/24 | Dyraniad Arfaethedig 2023/24 |
Prosiectau | £000 | £000 |
Canol Tref Wrecsam – Adfywio Treftadaeth fel rhan o gynllun ehangach canol y dref (gweler HE tabl1 uchod) | 100 | 50 |
Cynnal a Chadw Cofgolofnau ac Ailarddangos Cofgolofnau Hynafol yn y Fwrdeistref | 100 | 50 |
Cyfanswm | 200 | 100 |
Bydd ein Bwrdd Gweithredol yn cwrdd i drafod yr adroddiad ar ddydd Mawrth, 7 Hydref.
Gallwch wylio’r drafodaeth yn fyw ar y gweddarllediad.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN