Working with young people in Wrexham

Pan fydd pobl yn meddwl am eu cyngor, maent yn aml yn meddwl am finiau ac ailgylchu, ysgolion, gofal cymdeithasol a gwasanaethau proffil uchel eraill.

Ond mae yna lwyth o bethau mae cynghorau yn eu gwneud, nad yw neb yn sylwi arnynt i raddau helaeth … pethau pwysig iawn sy’n helpu unigolion a chymunedau.

Cymerwch ein Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (YJS), sy’n gweithio i leihau’r risg y bydd pobl ifanc yn troseddu … neu’n aildroseddu.

Hynny yw, mae’n helpu pobl ifanc i osgoi cymryd y llwybr anghywir a mynd i drafferth … gwneud camgymeriadau a allai effeithio ar (neu ddifetha hyd yn oed) eu bywydau … wrth helpu cymunedau i aros yn lleoedd diogel a dymunol i fyw ynddynt.

‘Rhagorol’

Mae’r bobl sy’n gweithio yn YJS yn gwneud gwaith anhygoel. Ac mae hynny’n swyddogol.

Graddiodd archwiliad a gyhoeddwyd yn gynharach eleni fod y gwasanaeth yn ‘rhagorol’ mewn sawl maes.

Dywedodd yr adroddiad: “Mae’r staff yn ymroddedig ac yn frwdfrydig. Maent yn adnabod eu pobl ifanc yn dda ac yn greadigol wrth ymateb i’w hanghenion.

Newyddion Cyngor Wrecsam

Sut gwnaeth y YJS wahaniaeth i gymdogaeth yng Ngwersyllt

Yn gynharach eleni roedd un o’n cymunedau lleol yn dioddef lefelau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol, gyda Chanolfan Adnoddau Gwersyllt yn cael ei thargedu.

Roedd pobl leol yn bryderus ac roedd y galw am swyddogion heddlu a PCSOs yn uchel.

Cafodd rhai pobl ifanc eu gwahardd o’r clwb ieuenctid yn y ganolfan gymunedol, ac roedd rhai teuluoedd hyd yn oed mewn perygl o golli eu tenantiaeth ar eu cartref cyngor.

Beth wnaeth y YJS?

Trefnodd y YJS gyfarfodydd gyda phawb dan sylw, gan gynnwys yr heddlu, pobl leol a chynghorwyr, ysgolion cyfagos, rhieni a’r bobl ifanc eu hunain.

Fe wnaethant gasglu gwybodaeth a chael pawb i siarad â’i gilydd … a llunio cynllun i ddatrys y broblem.
Pa wahaniaeth a wnaeth?

Adferwyd hyder yn y gymuned … gallai pobl weld bod rhywbeth yn cael ei wneud.

Trwy gamu i’r adwy yn gynnar, helpodd y YJS i ddod o hyd i ateb a sicrhau bod y plant a’r gymuned yn cael y gefnogaeth gywir.

Dywedodd un o’r bobl ifanc wedi hynny: “Rwy’n deall mwy am sut mae fy ymddygiad yn effeithio ar bobl eraill.”

A dywedodd aelod o staff y swyddfa ystâd dai leol eu bod yn gweld pobl ifanc mewn “goleuni gwahanol nawr.”

Darllenwch fwy am yr hyn a ddigwyddodd yn ein herthygl blog flaenorol.

Poeni am eich plentyn?

Os ydych chi’n poeni am eich plentyn – am y dewisiadau maen nhw’n eu gwneud neu’r hyn maen nhw’n ei wneud – siaradwch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddynt yn eu hysgol, neu cysylltwch â’r YJS.

CYSYLLTWCH Â’CH YSGOL CYSYLLTWCH Â’R GWASANAETH CYFIAWNDER IEUENCTID