Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bydd y swydd TGCh yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc. Efallai dylech ymgeisio?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Bydd y swydd TGCh yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc. Efallai dylech ymgeisio?
Arall

Bydd y swydd TGCh yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc. Efallai dylech ymgeisio?

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 4, 2019 10:52 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Bydd y swydd TGCh yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc. Efallai dylech ymgeisio?
RHANNU

Nid yw’r ffaith eich bod yn gweithio yn yr Adran TGCh yn golygu mai eich breuddwyd yw gweithio yn Silicon Roundabout yn Llundain :-/

Cynnwys
  • Prosiect cyffrous
  • Y sgiliau rydym yn chwilio amdanynt…
  • Gyrfa sy’n rhoi llawer o foddhad + chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
  • Sut i Ymgeisio

Os ydych yn weithiwr TGCh proffesiynol talentog a chreadigol sydd yn chwilio am swydd sydd ddim yn golygu gorfod cwffio drwy draffig y ddinas bob bore, efallai bod eich swydd nesaf yn agosach na’r ydych yn feddwl.

I ddweud y gwir, rydym yn chwilio am Uwch Ddadansoddydd Technegol i helpu edrych ar ôl y gweinyddwyr a diogelwch ein ysgolion.

Oes gennych chi ddiddordeb? Darllenwch ymlaen …

Prosiect cyffrous

Ym mis Gorffennaf 2019 cyhoeddodd Gweinidog Addysg Cymru gyllid o £50m ar gyfer rhaglen TGCh mewn ysgolion.

Bydd y Rhaglen Trawsnewid Hwb yn newid tirlun technoleg addysg, ac os byddwch yn ymuno â ni, byddwch yn helpu i ddarparu isadeiledd digidol newydd ar gyfer 70 ysgol yn Wrecsam.

Mae’n brosiect cyffrous a fydd o fudd i filoedd o bobl ifanc, ac efallai byddwch yn gweithio ar safle mewn dosbarth ysgol un diwrnod, ac ar ddiwrnod arall yn cyflwyno datrysiadau arloesol yn yr ystafell bwrdd.

Felly mae llawer iawn o amrywiaeth, creadigrwydd a boddhad swydd yn y rôl hon.

Y sgiliau rydym yn chwilio amdanynt…

Fel uwch aelod o’r tîm, byddwch yn darparu arweinyddiaeth ar lefel uchel o arbenigedd technegol ar weinyddwyr, LAN, diogelwch, data wrth gefn a gwasanaethau cyfeiriadur gweithredol.

Hefyd byddwch yn gyfrifol am ymchwilio ac argymell cynnyrch a thechnolegau allweddol.

Wrth gwrs, byddwch yn brofiadol ac yn meddu ar gymwysterau addas. Ond (mae hyn yn bwysig) byddwch yn unigolyn brwdfrydig a chyfforddus wrth reoli eich amser eich hun.

Gyrfa sy’n rhoi llawer o foddhad + chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith

Os ydych yn byw yng Ngogledd Cymru, Swydd Gaer, Swydd Amwythig neu Gilgwri, mae’n debyg eich bod o fewn pellter teithio hawdd (mae gan Wrecsam gysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd da iawn).

Os ydych yn chwilio am gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, mae yna ddigon o resymau dros ymgeisio.

Er enghraifft, mae ein cynllun gweithio’n hyblyg yn golygu y gallwch symud oddi wrth y 9 tan 5 a gorffen yn gynnar un diwrnod ac yn hwyrach ar ddiwrnod arall. Mae’n ymwneud â darparu gwasanaethau ac ymateb i anghenion ein ysgolion…ond mae hyblygrwydd yn gweithio’r ddwy ffordd.

Byddwch hefyd yn cael gwyliau hael, mynediad i gynllun pensiwn a buddiannau gweithwyr eraill.

Sut i Ymgeisio

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 8 Tachwedd 2019 felly os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ‘Thîm Wrecsam’, ewch amdani.

Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys manylion cyswllt ar gyfer sgwrs anffurfiol am y swydd ewch i’n gwefan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrexham.gov.uk/welsh/vacancies_cy/vacancy.cfm?v_id=D44A0695-A02A-3AE5-D40ED63874DC6354″] GWNEWCH GAIS RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Foil Recycling Handy Tips Rhagor o awgrymiadau defnyddiol i ailgylchu
Erthygl nesaf Working with young people in Wrexham Ein tîm YJS ‘rhagorol’ yn helpu pobl ifanc i aros allan o drafferth

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English