Mae pobl arbennig yn byw yn ein cymuned leol…
Ac efallai nad ydynt yn gallu gwneud y pethau maent yn eu fwynhau, am sawl rheswm gwahanol… efallai bod angen ychydig o gymorth a chefnogaeth arnynt.
Felly, beth alla i wneud?
Os oes gennych rhai oriau’n rhydd bob wythnos, gallwch eu defnyddio i fod yn weithiwr cefnogi hunangyflogedig yn ein Tîm Cefnogaeth Gymunedol.
Ac os ydych chi’n credu nad oes gennych ddigon o brofiad… mae hyn yn hollol dderbyniol, fe rown hyfforddiant i chi!
Ac os nad ydych yn gyrru, mae hynny’n iawn hefyd. Mae’n well gennym fod pobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus beth bynnag.
Beth sydd ei angen arnoch yw ymrwymiad da, a natur ofalgar.
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Beth fydda i’n ei wneud?
Fel gweithiwr cefnogi, byddwch yn rhoi cymorth i’r henoed neu bobl anabl gael mynediad at eu cymunedau. Byddwch yn eu helpu i gynnal eu hannibyniaeth, fel bod eu bywydau’n cynnwys y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.
Gall hyn gynnwys gweithgareddau hamdden, addysg bellach neu roi help llaw iddynt gysylltu â hen ffrindiau.
Yr un perffaith?
Beth sy’n wych am y swydd hon yw, y byddwn yn ceisio paru’r gofalwyr gyda phobl â’r un diddordebau a hobïau. Felly, dylai’r pethau rydych yn eu gwneud gyda’ch gilydd fod yn bethau mae’r ddau ohonoch yn eu mwynhau.
Rhai oriau’r wythnos felly?
Mae’r swydd yn un hunangyflogedig… chi fydd yn rheoli faint o oriau rydych yn gweithio! Os ydi hynny’n dair awr yr wythnos, neu’n 37… mae hynny’n benderfyniad i chi’n hollol.
I roi syniad gwell i chi o’r math o bobl y byddwch yn eu helpu, dyma astudiaeth achos cryno ar Mrs P…
Mrs P
Cafodd Mrs P ei atgyfeirio atom yn 2015. Mae hi’n 87 mlwydd oed ac yn byw gydag Alzheimer, ac roedd hi’n unig iawn.
Roedd stopio gyrru a dychwelyd ei thrwydded yrru yn ei gwneud hi’n anodd mynd o un lle i’r llall yn annibynnol.
Bu hi’n mwynhau peintio, dawnsio, croesbwytho a garddio… ond ar hyn o bryd, nid oedd hi’n gwneud llawer o ddim, ond gwylio’r teledu ar ei phen ei hun.
Daethom o hyd i ofalwr a oedd yn gallu treulio dwy sesiwn, tair awr o hyd gyda hi, bob wythnos. Mae hyn yn caniatáu iddi fwynhau gweithgareddau’r gymuned a chyfarfod eraill…gan fynd i’r afael â’r unigedd oedd yn ei gwneud iddi bryderu.
Nawr, mae hi wedi magu hyder ac mae lefelau ei gofid wedi gostwng.
Ar ôl rhai wythnosau’n unig, roedd y gwahaniaeth i’w weld… roedd hi’n wên o glust i glust pan roedd hi’n siarad am y gefnogaeth roedd hi’n ei gael.
Roedd hyn hefyd yn lleihau’r pwysau ar ferch Mrs P.
Mae gen i ddiddordeb… sut ydw i’n cael rhagor o wybodaeth?
Ffoniwch Lynette Lewis ar 01978 298424 neu anfonwch neges e-bost at ein Tîm Cefnogaeth Gymunedol.
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN