Chwilio am her newydd gyffrous?
Eisiau boddhad swydd tra’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl?
Yna rydym eisiau siarad gyda CHI!
Mae Adran Gofal Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio gyda chydweithwyr iechyd yn y Tîm Adnodd Cymunedol i recriwtio 30 o swyddi Gweithiwr Cefnogi newydd yn y gymuned i weithio mewn ffordd fwy integredig. Mae hwn yn gyfle unigryw i dderbyn hyfforddiant a phrofiad yn y ddau leoliad.
Os ydych wedi ateb ‘ydw’ i’r cwestiwn uchod yna rydym eisiau clywed gennych; nid ydych angen unrhyw brofiad iechyd neu ofal cymdeithasol gan y darperir hyfforddiant llawn a gallwn gynnig cefnogaeth barhaus i chi drwy gydol y broses ymgeisio.
Bydd ein swyddi Gweithiwr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd yn gweithio ar draws timau a lleoliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gefnogi pobl ar draws Wrecsam. Bydd y swyddi hyn yn cael cyfle unigryw i dderbyn datblygiad a chyfarfod sefydlu o fewn y gwasanaeth iechyd gyda lleoliadau mewn amryw o leoliadau gofal iechyd yn ogystal â gofal cymdeithasol awdurdod lleol.
Rydym yn cynnig:
• Gwyliau â thâl ac oriau contract parhaol
• Gweithio ar draws ystod o leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol
• Llwybrau camu ymlaen yn eich gyrfa a chyfleoedd gwaith iechyd a gofal cymdeithasol
• Ystod eang o hyfforddiant ar gael
• Tîm cefnogol o gydweithwyr a rheolwyr
I gael rhagor o wybodaeth am y cyfle yma, edrychwch ar y swydd-ddisgrifiad llawn ar ein gwefan.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 6 Mawrth.
Ddangoswch y SWYDD
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae’r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.