Erbyn hyn gallwch wneud taliad gyda cherdyn dros y ffôn os ydych eisiau parhau i gael gwasanaeth gwastraff gardd o 31 Awst. I wneud hyn, ffoniwch y ganolfan gyswllt ar 01978 298989.
Rydym yn gobeithio gallu derbyn taliadau ar-lein yn fuan. Byddwn yn gadael i chi wybod trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a’r blog newyddion hwn pan fydd ar gael.
O ganlyniad i’r cyfnod clo, penderfynom barhau i wagio biniau gwastraff gardd o fis Ebrill gan y bu’n rhaid cau Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn sgil y cyfyngiadau mewn perthynas â theithio diangen, ond bydd y casgliadau a delir amdanynt yn awr yn cychwyn ar ddydd Llun, 31 Awst.
Bydd y ffi yn aros yr un fath – £25 y flwyddyn fesul bin gwastraff gardd. Ni fydd bin(iau) gwastraff gardd yn cael eu gwagu os na fyddwch wedi cofrestru erbyn 31 Awst.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Os ydych eisoes wedi talu, nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth
Os ydych eisoes wedi talu am y gwasanaeth gwastraff gardd yn gynharach yn y flwyddyn nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth. Byddwch yn cael gwasanaeth llawn am 12 mis hyd 31 Awst, 2021.
Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog yr Amgylchedd a Thechnegol: “Ar ôl cadarnhau’r dyddiad cychwyn newydd o 31 Awst, rydym bellach yn gallu derbyn taliadau newydd gan unrhyw un sydd heb gofrestru ar gyfer y gwasanaeth. Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud hynny ffonio 01978 298989 i wneud taliad gyda cherdyn.
“Byddwn hefyd yn gallu derbyn taliadau ar-lein yn fuan a byddwn yn gadael i chi wybod pan fydd hyn ar gael. Rydym wedi llwyddo i gadw’r gost mor isel â phosib, £25 y flwyddyn fesul bin gwastraff gardd, sy’n llai na nifer o awdurdodau eraill yng Nghymru a Lloegr. Os ydych wedi talu am y gwasanaeth yn gynharach yn y flwyddyn byddwch yn cael gwasanaeth llawn am 12 mis yn awtomatig o’r dyddiad cychwyn newydd.”
Nid wyf eisiau bin gwastraff gardd mwyach
Os mai dyma’r achos byddwn yn dod i’w gasglu. Ewch ar-lein i FyNghyfrif a gallwch naill ai fewngofnodi neu gofrestru i ofyn i ni ei gasglu. Byddwn yn ei gasglu, ond ni fyddwn yn gallu gwneud hynny ar unwaith felly byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda. Yn y dyfodol os ydych yn newid eich meddwl ac yn dymuno talu i gael gwagu eich bin gwyrdd bydd rhaid i chi brynu bin newydd os ydych eisoes wedi anfon eich bin yn ôl.
Nid wyf eisiau talu ond hoffwn gadw fy min gwastraff gardd
Mae hynny’n iawn. Gallwch ddal eich gafael arno ar gyfer y dyfodol ond ni fyddwn yn ei wagu. Os byddwch yn penderfynu talu am wagu eich bin gwyrdd yn y dyfodol ni fydd rhaid i chi dalu am fin gwyrdd newydd.
Gobeithiwn y byddwch yn parhau i gael gwasanaeth casglu gwastraff gardd gennym ni gan ein bod yn awyddus i weld cyfraddau ailgylchu Wrecsam yn parhau i gynyddu yn flynyddol, ond mae pethau’n anodd iawn, ac rydym yn deall os nad ydych yn dymuno talu am y gwasanaeth hwn.
YMGEISIWCH RŴAN