Injunction Bowers Road

Mae gyrrwr tacsi yn Wrecsam wedi’i erlyn wedi iddo wrthod cludo dau gwsmer dall, gan fod ganddynt gi cymorth.

Cafodd Mr Ali Raza Kiani, o Bendinas, Wrecsam, ddirwy o £200 a gorchymyn i dalu £1080 o gostau am y drosedd, a ddigwyddodd yn hwyr yn y nos ym mis Ionawr 2022.

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Clywodd Llys Ynadon Wrecsam fod y cwsmeriaid wedi archebu’r cerbyd er mwyn cael eu cludo gartref o Wrecsam. Pan gyrhaeddodd Mr Kiani y gyrchfan i’w codi, gwrthododd adael y ci ddod i mewn i’r cerbyd, ar y sail “fod gan y cerbyd seddi lledr”.

Roedd y cwsmeriaid yn gwbl ymwybodol o’u hawliau o dan y ddeddfwriaeth cydraddoldeb, gan ddweud wrth y gyrrwr ei fod yn cyflawni trosedd trwy wrthod cludo’r ci. Dywedon nhw wrtho y byddent yn cadw’r ci oddi ar y seddi. Ffoniodd Mr Kiani ei weithredwr, Speedy Cars, gan ofyn iddynt anfon cerbyd arall, fodd bynnag, gyrrodd i ffwrdd wedyn, a gadael y cwsmeriaid.

Mewn cyfweliad â Swyddogion Trwyddedu’r Cyngor, roedd Mr Kiani yn honni nad oedd yn gwybod ei fod yn gi tywys. Clywodd y llys fod y ci yn gwisgo ei harnais llachar a bathodyn adnabod ‘ci tywys’ adlewyrchol ar adeg y digwyddiad.

Clywodd y llys hefyd dystiolaeth tystion gan y cwsmeriaid a oedd yn bresennol yn y Llys gyda’r ci. Mae’r ddeddfwriaeth yn caniatáu i yrwyr sydd â “thystysgrif eithrio meddygol” wedi’i gymeradwyo wrthod cludo cŵn, os yw’n amharu ar eu hiechyd, fodd bynnag, nid oedd gan Mr Kiani unrhyw eithriadau meddygol.

Cafodd ei farnu’n euog am y drosedd o wrthod cludo cwsmer â chi tywys, sy’n mynd yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, “Mae gan Weithredwyr Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat gyfrifoldebau clir o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, sy’n amddiffyn hawliau pobl ag anableddau. Mae’n gwbl annerbyniol i yrrwr wrthod cludo teithwyr sydd â chi cymorth.

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI