Ers dros 75 mlynedd mae Wrecsam wedi bod yn gartref i gymunedau Cymreig a Phwylaidd sy’n rhannu cariad at bêl-droed.
I ddathlu’r undod a’r cyfeillgarwch rhwng y cymunedau hyn, ar ddydd Sadwrn, Medi 24ain o 12:00-2:00yp bydd Amgueddfa Wrecsam yn dadorchuddio arddangosfa o bethau cofiadwy pêl-droed Cymreig a Phwylaidd, ac yn gweini bwyd Cymreig a Phwylaidd yng Nghaffi’r Amgueddfa.
Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys sesiwn Celf a Chrefft AM DDIM, lle gall plant fwynhau creu delweddau o Eryrod a Dreigiau, symbolau annwyl bathodynnau pêl-droed cenedlaethol Cymru a Phwylaidd.
Bydd detholiad o’r delweddau hyn yn cael eu hychwanegu at yr arddangosfa bêl-droed ar ddiwedd y dydd, a’u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol i ddathlu’r genhedlaeth nesaf o gefnogwyr Cymreig a Phwylaidd yn mwynhau pêl-droed gyda’i gilydd mewn cyfeillgarwch.
Ni allai’r amseru fod yn well! Ddydd Sul, mae Cymru’n chwarae Gwlad Pwyl yn eu Gêm Cynghrair y Cenhedloedd UEFA yng Nghaerdydd.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Dathlu ‘cyfeillgarwch hanesyddol’
Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol dros Bartneriaethau a Diogelwch Cymunedol: “Mae gan bêl-droed bŵer rhyfeddol i uno a dod â phobl at ei gilydd, felly pa ffordd well o ddathlu’r cyfeillgarwch hanesyddol rhwng cymunedau Pwylaidd a Chymreig Wrecsam na rhannu ein cariad at y gamp a’i hanes i’n dwy genedl.
“Rwy’n gobeithio y bydd digon o deuluoedd a chefnogwyr y ddwy wlad yn dod i fwynhau’r digwyddiad hwn yn Amgueddfa Wrecsam. Byddwn hefyd yn argymell yn fawr eich bod yn edrych ar yr arddangosfa bêl-droed newydd ‘Shirt Stories’, a agorwyd yn yr Amgueddfa yn ddiweddar.”
Wrecsam yn fuan i fod yn gartref i Amgueddfa Bêl-droed Cymru
Mae cymaint yn digwydd yn Wrecsam yn ddiweddar fel ei bod yn hawdd anghofio bod cynlluniau ar y gweill i greu Amgueddfa Bêl-droed Cymru ochr yn ochr ag Amgueddfa Wrecsam newydd ar Stryt y Rhaglaw yn Wrecsam.
Wrecsam yw cartref ysbrydol pêl-droed Cymru ac mae ein cynlluniau uchelgeisiol yn bwriadu gwneud Wrecsam yn safle pererindod i gefnogwyr pêl-droed!
Bydd yr amgueddfa bêl-droed newydd yn dathlu pêl-droed Cymru, ddoe a heddiw, yn ei holl amrywiaeth, o glybiau llawr gwlad i’r timau cenedlaethol, yn ogystal ag amlygu llwyddiannau hanesyddol Wrecsam yn y gamp a dathlu treftadaeth gyfoethog y Fwrdeistref Sirol.
Bydd orielau newydd yn cael eu creu i arddangos casgliadau Amgueddfa Wrecsam, sy’n golygu gwell profiad i ymwelwyr a lleoliad modern o’r radd flaenaf ar gyfer darganfod stori hynod ddiddorol a chyffrous ein rhanbarth yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Ewch i wefan Amgueddfa Wrecsam i ddarganfod mwy.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH