Mae mannau sydd eisoes yn ffefrynnau gydag ymwelwyr ar draws sir Wrecsam yn ymddangos ar fap rhyngweithiol – Ffordd Cymru – sy’n hyrwyddo llwybrau twristiaeth newydd ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru
Mae’r ardal yn rhan o’r Llwybr Gwyddoniaeth a Threftadaeth sy’n talu teyrnged i’r hyn sydd ar gael yma yn Wrecsam ac yn rhoi mewnwelediad rhagorol i’n gorffennol a’n dyfodol.
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
Bydd defnyddwyr y map yn stopio mewn mannau allweddol fel Gwaith Haearn y Bers, Castell y Waun, Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Amgueddfa Cyngor Bwrdeistref Wrecsam, Tŷ Pawb, Techniquest, Pyllau Plwm y Mwynglawdd a Phrosiect Treftadaeth Brymbo.
Mae Ffordd Cymru yn rhan o deulu o dri llwybr cenedlaethol – Ffordd yr Arfordir, Ffordd Cambria a Ffordd Gogledd Cymru, sy’n eich tywys ar hyd yr arfordir, drwy wlad y cestyll ac ar draws ein perfeddwlad fynyddig. Ar hyd y llwybr mae dolenni a chysylltiadau fel y gallwch greu eich taith unigryw eich hun ar hyd Ffordd Cymru.
Gallwch weld y mapiau yma.
Mae’r llwybr hwn yn rhan o ymgyrch twristiaeth ehangach a lansiwyd gan Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru sydd, gyda chymorth cyllid Croeso Cymru a’r Gronfa Ymgysylltiad Twristiaeth Rhanbarthol (RTEF) wedi gwneud ymdrechion i roi hwb i ffigyrau twristiaeth yn ystod misoedd y gaeaf.
“Yn addysgu ac yn ysbrydoli“
Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygiad Economaidd ac Adfywio: “Mae’r llwybr drwy sir Wrecsam yn ysbrydoli ac yn addysgu. Fel ardal dwristiaeth mae gennym safleoedd o safon eithriadol, yn gyfoeth o dreftadaeth wedi’i hamgylchynu ag ardaloedd o harddwch rhyfeddol sydd yn sicr yn gwneud sir Wrecsam yn yn werth ymweld â hi. Mae’r rhai hynny sy’n gweithio yn y Diwydiant Twristiaeth wedi croesawu’r fenter ac rwy’n siŵr eu bod yn barod i estyn croeso mawr i ymwelwyr newydd â’r ardal”
Meddai Shane Logan, Rheolwr Castell y Waun: “Yma yn y castell rydym wrth ein bodd ein bod yn awr yn rhan o Lwybr Cylchol y Gogledd Ddwyrain sydd â chyfoeth o safleoedd arwyddocaol a hyfryd i ymweld â nhw. Rydym yn arbennig o falch o fod yn gweithio hyd yn oed yn agosach â’r cynghorau lleol a busnesau a sefydliadau eraill ar y llwybr, ac yn edrych ymlaen at groesawu a chyflwyno ymwelwyr newydd i’r ystâd.”
Mae mapiau ar gael i’w lawrlwytho o http://www.northeastwales.wales/the-north-wales-way/
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn nawdd ariannol drwy’r Gronfa Ymgysylltiad Twristiaeth Rhanbarthol (RTEF) ac yn cael ei gefnogi drwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygiad Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020 sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig (EAFRD) a Llywodraeth Cymru er mwyn gwella profiad yr ymwelydd a chreu cyrchfannau cryfach drwy gydweithio.
DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU