Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ewch i’r Hwb Cymraeg yn ystod Focus Wales 2026
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Ewch i’r Hwb Cymraeg yn ystod Focus Wales 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Ewch i’r Hwb Cymraeg yn ystod Focus Wales 2026

Diweddarwyd diwethaf: Mai 5, 2026 11:14 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Ewch i’r Hwb Cymraeg yn ystod Focus Wales 2026
RHANNU

Mae ymwelwyr â FOCUS Wales eleni yn cael eu hannog i alw heibio i’r Hwb Cymraeg ar Sgwâr y Frenhines yn ystod penwythnos yr ŵyl.

Ar gael drwy gydol FOCUS Wales 2026, bydd yr Hwb Cymraeg unwaith eto yn darparu gofod croesawgar, hamddenol a chynhwysol i bobl ddod at ei gilydd, mwynhau awyrgylch yr ŵyl a phrofi’r Gymraeg mewn lleoliad anffurfiol a chyfeillgar.

Ar agor bob dydd rhwng 9:30am a 10pm, mae’r Hwb Cymraeg yn lle delfrydol i ddysgwyr a siaradwyr newydd fagu hyder ac ymarfer eu Cymraeg. Mae lluniaeth hefyd ar gael drwy gydol y dydd.

Mae’r rhaglen yn cynnwys amrywiaeth eang o gerddoriaeth, sesiynau sgwrsio a gweithgareddau sy’n addas i deuluoedd, gan helpu i greu gofod dwyieithog sy’n agored i bawb – nid siaradwyr Cymraeg yn unig.

Dros y penwythnos, bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau amserlen llawn dop o ddigwyddiadau.

Dydd Iau 7 Mai

Andy Hickie – 5:30pm

Malgola, No – 6:20pm

Tokomololo – 7:10pm

PWSI – 8pm

Bydd sesiwn Dysgu Cymraeg: Learn Welsh hefyd yn cael ei chynnal am 12pm

Dydd Gwener 8 Mai

Ceitidh Mac – 1pm

Arthur Coates a Kerran Cotterell – 1:45pm

Eleanor Dunsdon a Gregor Black – 2:30pm

Something Sleeps – 3:15pm

Carreg Lafar – 6:15pm

Panedeni – 7:05pm

Côr Pob Llais Wrecsam – 7:55pm

Bydd gweithgaredd chwarae blêr hefyd yn cael ei gynnal am 11am, a sesiwn gymysgu British Council Cymru am 5:30pm.

Dydd Sadwrn 9 Mai

Côr BSL Signing Sensations – 12:00pm

Choirs for Good Wrecsam – 12:30pm

Derwen On Tour – 1pm

Hazel Sian – 1:50pm

Elin a Carys – 2:45pm

Tom Campbell Trio – 3:40pm

Half/Time – 4:35pm

Spirited Followers – 5:25pm

Claire Vine – 6:15pm

Osgled – 7:05pm

Côr DAW – 7:55pm

Gall ymwelwyr hefyd fynychu sesiwn ‘Paned a Sgwrs’ gyda Doctor Cymraeg.

Mae rhagor o wybodaeth am yr Hwb Cymraeg ar gael yma.

Dywedodd Stephen Jones, Swyddog y Gymraeg Cyngor Wrecsam: “Mae’r Hwb Cymraeg yn ofod i bawb ei fwynhau yn ystod FOCUS Wales. P’un a ydych chi’n siaradwr Cymraeg profiadol, yn ddysgwr neu’n rhywun sydd eisiau clywed a phrofi mwy o’r iaith, cewch groeso mawr yn yr HWB.”

“Mae’n gyfle i ymlacio, cael hwyl, cwrdd â phobl a mwynhau cymysgedd gwych o berfformiadau a gweithgareddau yng nghanol y ddinas. Rydyn ni eisiau i’r Hwb Cymraeg fod yn rhywle lle mae pobl yn teimlo’n gyfforddus yn defnyddio faint bynnag o Gymraeg sydd ganddyn nhw, gan hefyd annog eraill i ddysgu mwy ac ymuno.”

Mae rhagor o wybodaeth am FOCUS Wales ar gael yma.

Rhannu
Erthygl flaenorol Tŷ Pawb yn lleihau biliau ynni gyda system solar newydd – bron i hanner y pŵer bellach yn cael ei gynhyrchu ar y safle Tŷ Pawb yn lleihau biliau ynni gyda system solar newydd – bron i hanner y pŵer bellach yn cael ei gynhyrchu ar y safle
Erthygl nesaf Cymuned Gyfeillgar i Ddementia Gogledd Cymru North Wales Dementia Friendly Community Allech chi helpu i sicrhau bod Wrecsam yn fwy cyfeillgar i ddementia?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mimica
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English