Bydd yr ymchwil yn cael ei gynnal gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
Fe hoffem ni sgwrsio â thrigolion Wrecsam sydd wedi cael problemau ariannol ac sydd wedi defnyddio’r gwasanaethau neu’r budd-daliadau sydd ar gael i’w cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn .
Mae Cyngor Wrecsam a llywodraeth leol Cymru yn gobeithio, drwy gael gwell dealltwriaeth o’ch profiadau a’ch anghenion, y gallwn ddeall sut i wneud y gwasanaethau a gynigiwn yn well i drigolion fel chi.
Dyddiadau ac amseroedd: Rydym yn hyblyg o ran dyddiadau ac amseroedd y sesiynau. Os rhowch wybod i ni pan fyddwch ar gael, byddwn yn trefnu’r sesiwn sy’n addas i chi.
Hyd y sesiwn: Rhwng 30 munud ac awr.
Lleoliad: Rydym yn hyblyg o ran lleoliad. Fe allwn ni gynnal yr ymchwil naill ai wyneb yn wyneb, ar lein neu dros y ffôn.
I ddiolch i chi: Rydym yn cynnig £20 o dalebau Love2Shop i bawb sy’n cymryd rhan.
Pwy: Bydd yr ymchwil yn cael ei gynnal gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
Sut: Cofrestrwch yma.