Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ffabrig gwych! Gwelwch sut mae’r ysgol leol hon yn cael ei hysbrydoli gan arddangosfeydd newydd Tŷ Pawb
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ffabrig gwych! Gwelwch sut mae’r ysgol leol hon yn cael ei hysbrydoli gan arddangosfeydd newydd Tŷ Pawb
ArallArallPobl a lle

Ffabrig gwych! Gwelwch sut mae’r ysgol leol hon yn cael ei hysbrydoli gan arddangosfeydd newydd Tŷ Pawb

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 25, 2019 11:25 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Ffabrig gwych! Gwelwch sut mae'r ysgol leol hon yn cael ei hysbrydoli gan arddangosfeydd newydd Tŷ Pawb
RHANNU

Mae plant o ysgol leol wedi bod yn cael yn agos i waith celf o’r radd flaenaf yn Tŷ Pawb!

Cynnwys
  • Cydweithio creadigol
  • “Mae cael hyn wrth ein drws mor werthfawr”
  • Gwehyddu stori trwy Wrecsam

Mae disgyblion o Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn Wrecsam yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai dan arweiniad artistiaid a ysbrydolwyd gan arddangosfeydd cyfredol Tŷ Pawb: Julie Cope’s Grand Tour: The Story of a Life by Grayson Perry a Twist i Fyny Twist i Lawr.

Mae arddangosfa Grayson Perry yn cynnwys dau dapestri enfawr sy’n adrodd hanes lliwgar cymeriad ffuglennol – Julie Cope.

Mae Twist i Fyny Twist i Lawr yn rhedeg ochr yn ochr ag arddangosfa Grayson Perry ac yn dathlu treftadaeth wehyddu Wrecsam yn yr hen ffatri Celanese ar yr ystad ddiwydiannol.

Ffabrig gwych! Gwelwch sut mae'r ysgol leol hon yn cael ei hysbrydoli gan arddangosfeydd newydd Tŷ Pawb
Ffabrig gwych! Gwelwch sut mae'r ysgol leol hon yn cael ei hysbrydoli gan arddangosfeydd newydd Tŷ Pawb
Ffabrig gwych! Gwelwch sut mae'r ysgol leol hon yn cael ei hysbrydoli gan arddangosfeydd newydd Tŷ Pawb

Cydweithio creadigol

Mae’r gweithdai ysgol yn rhan o brosiect Cydweithrediadau Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n ceisio hyrwyddo ffyrdd newydd ac arloesol o ymgysylltu â celfyddydau.

Mae artist gwahanol yn arwain y gweithdai bob wythnos ac yn cyflwyno technegau creadigol newydd i’r plant. Wythnos yma, cyflwynodd yr artist Amy Caswell y disgyblion i argraffu sgrîn sidan. Cyrhaeddodd y canlyniadau ysblennydd i ben uchaf to enfawr Oriel 2!

GWNEWCH GAIS AM GLUDIANT I’R YSGOL YM MIS MEDI RŴAN!

Ffabrig gwych! Gwelwch sut mae'r ysgol leol hon yn cael ei hysbrydoli gan arddangosfeydd newydd Tŷ Pawb
Ffabrig gwych! Gwelwch sut mae'r ysgol leol hon yn cael ei hysbrydoli gan arddangosfeydd newydd Tŷ Pawb

“Mae cael hyn wrth ein drws mor werthfawr”

Dywedodd Katie Edwards, athrawes yn Ysgol y Santes Fair: “Rydym wedi cael cymaint o hwyl yn bod yn greadigol yn Tŷ Pawb yr wythnos hon. Cyn i’r lle hwn fodoli byddem wedi gorfod teithio’n bell i lefydd fel Lerpwl a Manceinion i weld gwaith gan artistiaid fel Grayson Perry. Mae cael mynediad at hyn yn Wrecsam yn mor werthfawr ac ysbrydoledig i bobl ifanc leol.

“Mae’n lle gwych i blant weithio ynddo. Llachar iawn gyda nenfwd uchel. Mae’r plant wedi cael amser gwych yn dysgu am argraffu sgrîn ar syniadau sidan a gydag ysbrydoliaeth o’r arddangosfeydd.

“Mae’r canlyniadau’n edrych yn wych a hoffwn ddiolch i Amy Caswell, Ellie Ashby (Cydlynydd Dysgu Tŷ Pawb) a’r holl athrawon, staff a gwirfoddolwyr o Tŷ Pawb a helpodd gyda’r sesiwn.”

Gwehyddu stori trwy Wrecsam

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Bobl – Cymunedau, Partneriaethau Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, y Cyng Hugh Jones: “Beth sydd yn wych am yr arddangosfeydd hyn yw’r ffordd y maent wedi llwyddo i wehyddu gwaith celf o’r radd flaenaf gan Grayson Perry hefo hanes tecstilau leol Wrecsam, gan gynnwys gwaith gan staff o’r hen ffatri Celanese, fyfyrwyr coleg a disgyblion ysgol lleol.

“Mae’n gyflawniad gwych ac mae’n rhaid diolch i’r tîm yn Tŷ Pawb am y gwaith enfawr maen nhw wedi’i wneud i wneud hyn yn bosibl.”

Mae Julie Cope’s Grand Tour: The Story of a Life by Grayson Perry a Twist i Fyny Twist i Lawr. yn cael eu harddangos yn Nhŷ Pawb tan Ebrill 22.

Dilynwch Dŷ Pawb ar:
Facebook
Twitter
Instagram

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

Rhannu
Erthygl flaenorol Hoffech chi ddysgu sut beth ydi byw efo dementia? Hoffech chi ddysgu sut beth ydi byw efo dementia?
Erthygl nesaf Edrychwch ar beth rydym wedi ei wneud gyda’r cartrefi gwag hyn Edrychwch ar beth rydym wedi ei wneud gyda’r cartrefi gwag hyn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English