Awyddus i ddatblygu eich gyrfa? Chwilio am newid llwyr?
Yn dilyn ffair swyddi lwyddiannus y llynedd, mae Cymunedau am Waith a Mwy Wrecsam, ar y cyd â’r AGPh, ar fin cynnal un arall! Y tro hwn bydd yn cael ei gynnal ynNeuadd Goffa Wrecsam (maes parcio Waterworld) ddydd Mercher, 22 Ionawr, 10am i 2pm.
Bydd y ffair swyddi hon ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn swydd, newid gyrfa neu gynnydd ar draws Wrecsam a’r siroedd cyfagos.
Bydd staff wrth law i gynnig cymorth gyda cheisiadau, CVs, sgiliau cyfweld ac ati a bydd y diwrnod yn gyfle gwych i gwrdd â chyflogwyr wyneb yn wyneb a dysgu am swyddi newydd sydd ar gael ar draws y rhanbarth.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth, “Mae ffeiriau swyddi yn gyfleoedd gwych i unrhyw un sy’n chwilio am waith neu sydd am newid gyrfa. Gall gwneud cais am swydd a mynychu cyfweliad fod yn frawychus, ond yn y ffair swyddi hon fe welwch bopeth sydd ei angen arnoch chi i ddatblygu eich sgiliau a’ch hyder.”
Mae croeso i bawb fynychu, ac i sicrhau eich bod yn cael y gorau o’ch ymweliad, dewch â chopïau o’ch CV gyda chi.
Ydych chi’n recriwtio? Os ydych chi’n recriwtio yn ardal Wrecsam ar hyn o bryd ac eisiau archebu stondin AM DDIM, cysylltwch â Juliet Davies ar 01978 820520 neu e-bostiwch.