Os ydych chi’n chwilio am rywbeth i’w wneud ar foreau Gwener, beth am ddod i Tŷ Pawb rhwng 9.30am ac 11.30am am Goffi a gwneud rhywbeth creadigol a chrefftus mewn cwmni da.
Mae’r sesiynau yn dechrau ddydd Gwener 15 Mawrth, gyda chyflwyniad i wneud Blodau Papur.
Mae sesiynau eraill yn cynnwys:
22 Mawrth – Gwneud magned oergell neu gylch allweddi
29 Mawrth – Cyflwyniad i wneud Matiau Rag
5 Ebrill – Peintio Cerrig Bychain
12 Ebrill – Gwneud Creaduriaid Pom Pom
19 Ebrill – Peintio Gwydr Jar Cannwyll
Mae’r sesiynau yn £2 yr un ac yn cynnwys diod boeth, taith o amgylch yr oriel a’r holl ddeunyddiau.
Nid oes angen archebu lle ac mae croeso i bawb (oedolion). Cwrdd yn ardal ‘Gofod Hyblyg’ Tŷ Pawb gyda’r llenni plastig coch.
Mae’r lleoliad yn hygyrch i gadeiriau olwyn ac mae cyfleusterau newid yno. Mae croeso i gŵn cynorthwyol.
Mae lle i barcio’r car ar gael ar y safle, £2.50 am y diwrnod.
Mae llefydd am ddim i ofalwyr a gweithwyr cefnogi sy’n dod gyda’r rhai sy’n cymryd rhan.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Tŷ Pawb ar 01978 29144 neu anfonwch e-bost at heather.wilson@wrexham.gov.uk
Cefnogir gan Adran Gofal Gymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Coleg Cambria a Tŷ Pawb.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN