Yn dilyn achosion o ffliw adar mewn adar gwyllt yng Nghymru, mae’n rhaid i bawb sy’n cadw dofednod ac adar caeth eraill eu cadw dan do o ddydd Llun 14 Rhagfyr ymlaen, a chadw golwg arnyn nhw o ran y clefyd.
Daw hyn yn sgil cyflwyno Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan ym mis Tachwedd ac mae’n cyd-fynd â’r camau gweithredu i atal lledaeniad pellach y clefyd yn y DU.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Mae’r gofyniad i gadw adar dan do yn berthnasol i adar a gedwir fel anifeiliaid anwes ac adar a gedwir at ddefnydd masnachol.
Ni fydd cadw adar dan do yn lleihau’r perygl oni bai y rhoddir arferion bioddiogelwch llym ar waith. Oherwydd hynny, cynghorir perchnogion i gynnal hunanasesiad o’u mesurau bioddiogelwch. Bydd hyn yn darparu’r dystiolaeth angenrheidiol i sicrhau eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i fodloni gofynion y Parth Atal.
Mae rhagor o wybodaeth am y mesurau bioddiogelwch ar gael yma: https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/941139/biosecurity-poultry-guide.pdf (Saesneg yn unig)
Os ydych chi’n amau bod gan aderyn y clefyd, gweler: https://www.gov.uk/guidance/avian-influenza-bird-flu.cy
Gallwch ddarllen datganiad llawn Llywodraeth Cymru yma: https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-parth-atal-cymru-gyfan-ffliwr-adar-gorchymyn-i-gadw-adar-dan-do
Os oes gennych chi unrhyw bryder ynghylch eich adar, cysylltwch â’ch milfeddyg i dderbyn cyngor.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG