Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ffoaduriaid, Ceiswyr Lloches ac Arweinwyr Prosiect Hiraeth yn gweld y baneri sydd wedi’u gosod yn ddiweddar.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ffoaduriaid, Ceiswyr Lloches ac Arweinwyr Prosiect Hiraeth yn gweld y baneri sydd wedi’u gosod yn ddiweddar.
Y cyngor

Ffoaduriaid, Ceiswyr Lloches ac Arweinwyr Prosiect Hiraeth yn gweld y baneri sydd wedi’u gosod yn ddiweddar.

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 11, 2019 10:55 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Football Museum
AMGUEDDFA WRECSAM/WREXHAM MUSEUM
RHANNU

Mae cyfranogwyr mewn prosiect sy’n cynnwys ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant ysgol leol wedi cynhyrchu cyfres o faneri lliwgar sy’n cael eu harddangos yn y caffi a’r prif risiau yn Amgueddfa Wrecsam.

Mae’r prosiect Hiraeth, a gaiff ei redeg gan ‘Just Across’ (Y Groes Goch) gyda Chyswllt Celf a’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Loteri Genedlaethol, yn dathlu straeon pobl o amgylch y byd sydd wedi cyrraedd Wrecsam, yn annog plant lleol i ddysgu am fywyd mewn gwledydd eraill ac yn helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n byw yn Wrecsam i ddysgu Saesneg a Chymraeg.

GWNEWCH GAIS AM GLUDIANT I’R YSGOL YM MIS MEDI RŴAN!

Dywedodd L, (un o’r bobl sydd wedi bod yn rhan o Just Across, elusen y Groes Goch ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches) “Roedd y gwaith adrodd stori yn fy helpu i baratoi ar gyfer fy arholiad Saesneg yng Ngholeg Cambrian. Llwyddais yn fy arholiad lefel dau yr wythnos ddiwethaf gyda 79%. Rwyf eisiau bod yn nyrs.  Rwyf angen siarad Saesneg yn dda i wneud hynny.”

Ychwanegodd A (cyfranogwr arall yn y prosiect) ““Wnes i adael fy ngwlad ar ben fy hun pan oeddwn yn 10 oed.    O’r diwedd wnes i ddod i Wrecsam.  Rwyf wedi bod yma yn Wrecsam ers dwy flynedd a hanner.   Rwy’n caru Wrecsam – mae popeth yma i mi. Rwy’n chwarae pêl-droed i dîm lleol.  Rwy’n gallu astudio a gweithio yma yn Wrecsam.    Rwyf eisiau ymuno â’r heddlu rŵan.” ”

Dywedodd Fiona Collins (storïwraig y prosiect) “Rwyf wedi cyflawni llawer drwy wneud y prosiect hwn ac rwy’n falch fy mod wedi gallu cymryd rhan.  Gobeithio fy mod wedi gwneud cyfraniad defnyddiol i gyfoethogi bywydau’r bobl fendigedig a haeddiannol hyn” 

Ychwanegodd Catrin Williams (Artist y prosiect) “Roedd yn wych gweld pobl yn barod i gymryd rhan yn cynyddu dros amser, wrth iddynt ddod i fy adnabod ac ymddiried ynof. Ni ellir rhuthro’r math yma o waith”

Eglurodd y staff dysgu yn ysgolion Rhostyllen a San Silyn sut oedd y plant yn rhan o’r prosiect hwn “Roedd y plant yn y ddwy ysgol wnaeth gymryd rhan yn gyffrous iawn i gyfathrebu gyda’r ffoaduriaid. Roedd y ffoaduriaid wrth eu bodd yn cyfnewid cardiau post yn arbennig, pan oeddent yn eu derbyn, a’r plant, pan oeddent yn derbyn eu hymatebion.”

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Amgueddfa Wrecsam ar 01978 297 460

Ffoaduriaid, Ceiswyr Lloches ac Arweinwyr Prosiect Hiraeth yn gweld y baneri sydd wedi’u gosod yn ddiweddar.
Ffoaduriaid, Ceiswyr Lloches ac Arweinwyr Prosiect Hiraeth yn gweld y baneri sydd wedi’u gosod yn ddiweddar.

A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://admissions.wrexham.gov.uk/CitizenPortal_Live/Account/Login?ReturnUrl=%2FCitizenPortal_Live%2F%E2%80%9D”] GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Subbuteo yn dychwelyd i Tŷ Pawb Subbuteo yn dychwelyd i Tŷ Pawb
Erthygl nesaf Ymgynghoriad ynghylch Cynllun y Cyngor Ymgynghoriad ynghylch Cynllun y Cyngor

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English