Bydd Pride Wrecsam, y digwyddiad cyntaf o’i fath yn y ddinas, yn ddathliad o amrywiaeth ac yn le i bobl o bob hunaniaeth ddod at ei gilydd a chroesawu cariad a chynhwysiant. Bydd yn arddangos clytwaith cyfoethog y gymuned LHDTCRhA+ a’i chynghreiriaid yn Wrecsam.
Mae’n ddigwyddiad addas i’r teulu a bydd yn cynnwys:
- gorymdaith liwgar, gynhwysol a hygyrch yn gadael Llwyn Isaf am 1.30
- yn dilyn yr orymdaith, man cymunedol yn Llwyn Isaf gyda stondinau gwybodaeth sefydliadau cymunedol lleol ynghyd â chrefftau a gweithgareddau i blant a phobl ifanc. Anogir pobl i ddod â’u picnic eu hunain i’w mwynhau tra’n cael eu diddanu gan amrywiaeth o berfformwyr yn perfformio ar y bandstand. Bydd man tawel hefyd
- o 10am, marchnad stryd yn Sgwâr y Frenhines sy’n cynnwys busnesau lleol yn cynnig bwyd a diodydd ac amrywiaeth o gelf a chrefft, i gyd yn cefnogi ac yn hyrwyddo’r thema amrywiaeth a chynhwysiant
- digwyddiadau parti mewn nifer o sefydliadau lleol a fydd yn parhau yn hwyr gyda’r nos
Dywedodd Rachel Allen, sy’n rhan o’r tîm trefnu, “Y nod yw hyrwyddo Wrecsam fel dinas gyfeillgar LHDTCRhA+ a dangos cefnogaeth ac undod gyda’r gymuned LHDTCRhA+. Yn ogystal â’r gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar Llwyn Isaf a Sgwâr y Frenhines, bydd Llwybr Pride, a gefnogir gan fusnesau o amgylch canol y ddinas.”
Os hoffech gymryd rhan yn y digwyddiad, cofrestrwch ar wefan Pride Wrecsam
Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Ymweld â chanol dinas Wrecsam am y tro cyntaf? Beth i’w wneud a ble i fynd…
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch