Yn dathlu ei 15fed flwyddyn, mae gŵyl FOCUS Wales yn ôl eto wythnos nesaf– yn cael ei gynnal o ddydd Iau, 8 Mai i ddydd Sadwrn, 10 Mai, 2025.
Beth i’w ddisgwyl gan FOCUS Wales
Os nad ydych chi wedi bod erioed o’r blaen, dyma grynodeb o’r ffordd mae’n gweithio.
Mae’n gasgliad enfawr o berfformwyr – gan ddod â mwy na 250 o artistiaid cerddoriaeth o Gymru a ledled y byd i berfformio yn Wrecsam.
Bydd artistiaid yn perfformio mewn llawer o leoliadau o amgylch canol y ddinas, yn bennaf mewn tafarndai, clybiau a mannau bwyd – yn ogystal â phabell fawr ar y Llwyn Isaf (y Cae Llyfrgell), HWB ar Sgwâr y Frenhines a Tŷ Pawb.
Does dim genre penodol o gerddoriaeth felly mae llawer i ddewis ohonynt, mewn gwirionedd dylech ddisgwyl yr annisgwyl!
Oherwydd bod llawer o gigs yn digwydd ar yr un pryd, unwaith y byddwch wedi cael tocyn dilys gallwch naill ai ddewis cynllunio eich amserlen yn ofalus; neu alw heibio i leoliadau gwahanol a gweld beth sydd at eich dant.
Yn ogystal ag amserlen yn llawn cerddoriaeth wreiddiol gan gannoedd o artistiaid, mae’r ŵyl hefyd yn cynnig:
- sgyrsiau gan bobl yn y diwydiant cerddoriaeth a digwyddiadau rhwydweithio; fel rhan o gynhadledd yr ŵyl dros 3 diwrnod
- Dangosiadau ffilm (gyda chystadlaethau categori, yn ogystal â gwobrau y tu allan i’r gystadleuaeth ar gyfer ‘Goreuon Wrecsam’ a ‘Straeon Celtaidd’) a sgyrsiau gwneud ffilmiau yn yr ŵyl ffilm sy’n cael ei chynnal o ddydd Gwener i ddydd Sadwrn
Mynnwch docynnau!
Felly, os ydych chi’n gefnogwr cerddoriaeth, yn frwdfrydig am ffilmiau, neu hyd yn oed yn artist eich hun sydd eisiau creu cysylltiadau yn y diwydiant – dewch draw ac ymunwch yn yr hwyl!
Mae sawl math gwahanol o docynnau ar gael, gan gynnwys tocynnau gŵyl sy’n rhoi mynediad i bob sioe (os oes lle ar gael), tocynnau dydd, neu docynnau i sioeau unigol ar gyfer llond llaw o artistiaid.
Er mwyn lleihau ciwio mewn lleoliadau, bydd un swyddfa docynnau ganolog wedi’i lleoli yn Tŷ Pawb. Felly, os ydych chi’n prynu unrhyw fath o docyn, bydd angen i chi fewngofnodi a chasglu eich band garddwrn o Tŷ Pawb yn gyntaf cyn mynd i unrhyw sioeau.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth: “Mae’n wych gweld yr ŵyl yn dychwelyd i Wrecsam unwaith eto, gan gynnig cyfle i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd gefnogi busnesau lleol tra’n mwynhau’r amrywiaeth enfawr o adloniant creadigol sydd ar gael.”
Mwy o wybodaeth
I ddarganfod mwy (gan gynnwys y ddolen i’r ap er mwyn gallu creu eich amserlen eich hun yn ogystal â chanllawiau trafnidiaeth os ydych chi’n ymweld o rywle arall), edrychwch ar dudalen wybodaeth FOCUS Wales.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymweld â’r Hwb Cymraeg yn ystod Focus Wales!