Mae’r Bwrdd Gweithredol wedi cytuno ar gynllun parcio am ddim ar ôl 2pm 🙂
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae hwn yn newid cadarnhaol iawn er mwyn cefnogi canol y dref a gobeithiaf y bydd trigolion a masnachwyr yn manteisio ar y cynnig hwn. Bydd yn weithredol am gyfnod prawf o 12 mis i ddechrau er mwyn i ni gael amser i farnu pa mor boblogaidd yw’r cynllun a sut mae masnachwyr wedi elwa o’r cynllun. Rwy’n ddiolchgar i aelodau’r glymblaid am eu cefnogaeth ar y mater hwn, a hefyd i staff, sydd wedi gweithio’n galed ar y fenter.”
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Ni fydd y cynllun parcio am ddim yn dod i rym ar unwaith. Mae rhai camau cyfreithiol i’w cymryd yn gyntaf cyn y gellir rhoi’r cynllun ar waith. Rydym yn disgwyl y bydd y camau hyn wedi cael eu cwblhau erbyn mis Ebrill felly peidiwch â pharcio heb dalu nes ei bod yn ddiogel i chi wneud hynny neu byddwch yn derbyn dirwy barcio.
“Parcio am ddim ar ôl 2pm – ble?”
Nid yw’r cynigion yn cynnwys Tŷ Pawb ond maent yn cynnwys meysydd parcio’r cyngor yn:
- Canolfan Byd Dŵr
- Llyfrgell Wrecsam
- Cilgant San Siôr
- Ffordd y Cilgant
- San Silyn
- Stryt y Farchnad
Gallwch ddarllen ein hadroddiad blaenorol isod:
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN