Bydd tri o ddisgyblion Ysgol Clywedog, Emanuela Merftova, Tai Hyland a Ruben Soares yn mynd draw i Denbigh Gliding ym Maes Awyr Parc Lleweni yn fuan.
Fe wnaeth y tri ennill yr ysgoloriaethau ar ôl taith Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg i’r maes awyr ar wahoddiad Cymdeithas Gleidio Prydain, a dalodd am fws i fynd â 30 o ddisgyblion i’r digwyddiad.
Ar ôl y digwyddiad, cafodd rhai disgyblion eu gwahodd i ymgeisio am ysgoloriaeth ar sail eu diddordeb a’u cyfraniad yn ystod y sesiynau. Ystyriwyd y ceisiadau gan dîm Cymdeithas Gleidio Prydain ac roedd tri o ddisgyblion Ysgol Clywedog yn llwyddiannus.
Mae pob ysgoloriaeth werth £500 ac mae posib’ ei defnyddio ar gyfer hedfan a gweithgareddau eraill sy’n ymwneud yn uniongyrchol â dysgu bod yn beilot gleider. Bydd y disgyblion yn gorffen yr ysgoloriaeth drwy hedfan gleider ar eu pen eu hunain!
Mae Emanuela eisiau bod yn beilot awyrennau masnachol. Mae hi’n brysur yn astudio ar hyn o bryd er mwyn gwireddu ei breuddwyd ac mae hi hefyd yn Gadét Awyr.
Mae Ruben hefyd yn Gadét Awyr a byddai wrth ei fodd yn ymuno â’r Awyrlu. Mae’n wybodus iawn am awyrennau ac mae’n astudio at hyfforddiant ac arholiadau peilot yn barod, sy’n helpu gyda hyfforddiant hedfan.
Mai gan Tai ddiddordeb mewn peirianneg ac fe wnaeth wir fwynhau’r daith i Faes Awyr Dinbych fel profiad o Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Mae ennill yr ysgoloriaeth hon wedi ei helpu i weld gwahanol agweddau ar yrfaoedd peirianneg a, gobeithio, wedi meithrin diddordeb oes mewn hedfan ynddo.
Dywedodd Melissa Flanagan, Pennaeth Gwyddoniaeth yn Ysgol Clywedog, “Mae’r tri wedi cyffroi ar ôl ennill yr ysgoloriaethau ac maen nhw ar eu ffordd i gyflawni eu huchelgeisiau. Rydw i’n dymuno’n dda iddyn nhw ac yn edrych ymlaen at glywed yr hanes.”