Dewch draw i’r Hwb Lles (LL13 8BG) ddydd Iau, 8 Chwefror rhwng 11am a 2pm…
Dydi siarad am iechyd meddwl erioed wedi bod yn bwysicach, a gall un sgwrs fach wneud byd o wahaniaeth.
Mae gan sgwrs y pŵer i newid bywydau… er gwell.
Dyma pam mae Cyngor Wrecsam yn trefnu digwyddiad Amser i Siarad yn yr Hwb Lles (Stryt Caer, Wrecsam) ddydd Iau, 8 Chwefror rhwng 11am a 2pm.
(Gwyddom mai ar 1 Chwefror mae’r Diwrnod Amser i Siarad swyddogol, ond am resymau ymarferol, rydym yn cynnal ein digwyddiad ar 8 Chwefror).
Bydd yno nifer o stondinau’n cynnig cyngor a gwybodaeth gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam, Andy’s Man Club, Papyrus, Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru, Llinell Gymorth y GIG a mwy.
Hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n dda, fyddwch chi ddim gwaeth â dysgu mwy am sut i ofalu am eich iechyd meddwl eich hun, a sut i helpu eraill.
Meddai’r Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am iechyd meddwl: “Bodau dynol ydyn ni i gyd, ac rydyn ni weithiau’n cuddio ein gwir deimladau. Ond hanner y baich yw ei rannu, a gall sgwrs gyda ffrind, perthynas neu gydweithiwr y gallwch chi ymddiried ynddo wneud byd o wahaniaeth.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am AD: “Mae yna hefyd nifer o asiantaethau all gynnig cymorth a chyngor mwy arbenigol, a helpu pobl drwy gyfnodau anodd iawn pan fyddan nhw’n teimlo’n isel.
“Os gallwch chi, galwch draw i’n gweld ni yn yr Hwb Lles ar 8 Chwefror i ddysgu mwy am sut i ofalu am eich iechyd meddwl, a sut i helpu ffrindiau, teulu a chydweithwyr.”
Mynd ati i sgwrsio
Yn ôl yr elusen iechyd meddwl, Mind, does yna ddim ffordd gywir nac anghywir o sgwrsio â rhywun am eu teimladau, ond mae’n cynnig ambell i awgrym buddiol ar ei gwefan…
Gofynnwch a gwrandewch
Gall gofyn cwestiynau roi cyfle i berson fynegi eu teimladau a’r hyn maen nhw’n ei ddioddef. A gall eich helpu chithau i ddeall eu profiad yn well.
Ceisiwch ofyn cwestiynau sy’n agored yn hytrach na’n arweiniol neu’n feirniadol. Er enghraifft, “sut mae hynny’n effeithio arnat ti?” neu “sut mae’n teimlo?”
Meddyliwch lle a phryd i gael sgwrs
Weithiau mae’n haws siarad pan fyddwch chi ochr yn ochr yn hytrach nag wyneb yn wyneb. Os byddwch chi’n cael sgwrs yn y cnawd, efallai yr hoffech chi sgwrsio wrth wneud rhywbeth arall.
Fe allech chi gychwyn sgwrs wrth fynd am dro, wrth goginio neu pan fyddwch chi’n eistedd mewn traffig.
Ond peidiwch â phoeni cymaint am ganfod y sefyllfa berffaith nes bod y sgwrs ei hun yn mynd yn angof!
Peidiwch â chwilio am ateb
Mae’n gallu bod yn anodd gweld rhywun annwyl i chi’n cael amser caled. Ceisiwch beidio â chynnig atebion tymor byr i’w problemau.
Gall dysgu rheoli neu ddod dros broblem iechyd meddwl fod yn daith hir.
Mae’n debyg y byddan nhw eisoes wedi ystyried nifer o wahanol ddulliau a strategaethau. Gall siarad fod yn bwerus iawn, felly os nad ydyn nhw’n gofyn i chi am gyngor yn uniongyrchol, efallai mai’r peth gorau i chi ei wneud ydi gwrando.
Peidiwch â’u trin yn wahanol
Pan fydd gan rywun broblem iechyd meddwl, cofiwch mai’r un person ydyn nhw o hyd.
Pan fydd ffrind neu anwylyd yn siarad gyda chi am eu hiechyd meddwl, dydyn nhw ddim am i chi eu trin nhw’n wahanol mewn unrhyw ffordd. Os ydych chi eisiau eu helpu, cadwch bethau’n syml. Gwnewch y pethau y byddech chi’n eu gwneud fel arfer.
Byddwch yn amyneddgar
Waeth pa mor galed y byddwch chi’n trio, efallai nad yw rhai pobl yn barod i siarad am eu profiadau.
Mae hynny’n iawn – efallai y bydd y ffaith i chi roi cynnig arni yn ei gwneud yn haws iddyn nhw siarad â chi rhywdro eto.