NODWCH – Mae’r ymgynghoriad hon wedi ei gau (01.12.17)
Mae’n rhaid i Gyngor Wrecsam arbed £13miliwn dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae hynny’n llawer o arian, ac nid oes modd gwneud hyn heb wneud penderfyniadau anodd iawn.
Yn syml, bydd yn rhaid i ni leihau rhai o’r gwasanaethau rydym yn eu darparu. A bydd yn rhaid i ni roi’r gorau i rai eraill yn gyfan gwbl.
Ond cyn i ni benderfynu ble i wneud yr arbedion, rydym eisiau gwybod beth yw barn y bobl am y gwahanol opsiynau.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Drwy gymryd rhan yn ein hymgynghoriad, fe all eich cymydog gael dweud eu dweud. Ac fe all y dyn sy’n byw lawr y stryd gael dweud ei ddweud.
Ac fe allwch chi gael dweud eich dweud. Felly peidiwch â cholli’r cyfle.
Pam fod angen i ni arbed arian?
Mae’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam yn egluro: “Mae Cynghorau’n parhau i wynebu gostyngiadau mewn cyllid o lywodraeth ganolog.
Ers 2008 rydyn ni wedi arbed £52 miliwn ac mae’n rhaid i ni arbed £13miliwn pellach dros y ddwy flynedd nesaf.
“Felly mae’n rhaid i ni feddwl am ffyrdd o gyflwyno’r gwasanaethau y mae pobl eu hangen ond gyda llai o arian.
“Mae hyn yn golygu gwneud penderfyniadau anodd iawn, ac mae’n bwysig bod pobl yn dweud wrthym ni beth maen nhw’n ei feddwl am rai o’r dewisiadau cyn i ni wneud hynny”.
A fydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae eich barn wedi ein helpu i benderfynu lle i wneud arbedion yn ystod cyfnodau anodd iawn.
Dywedodd y Cynghorydd Pritchard: “Fel y llynedd, fe fydd canlyniadau’r ymgynghoriad yma’n dylanwadu ar yr hyn y byddwn yn ei wneud.
“Efallai y bydd angen rhyw 10 munud i’w lenwi, ond mae’n amser wedi’i dreulio’n dda.
“Efallai bod rhai o’r cynigion yn effeithio arnoch chi, neu efallai fod gennych chi deimladau cryf amdanynt. Ond os nad ydych chi’n dweud wrthym ni, fyddwn ni ddim yn gwybod. A dim ond barn pobl eraill fydd gennym ni.”
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU