Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gall Cymunedau am Waith a Mwy eich helpu chi ganfod gwaith
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gall Cymunedau am Waith a Mwy eich helpu chi ganfod gwaith
Pobl a lleY cyngor

Gall Cymunedau am Waith a Mwy eich helpu chi ganfod gwaith

Diweddarwyd diwethaf: Mai 5, 2020 3:27 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Looking for work
RHANNU

Ydych chi wedi cael eich diswyddo yn ddiweddar?

Os felly, efallai bod modd i Gymunedau am Waith a Mwy eich helpu chi gael gwaith.

Mae cyflogwyr yn cysylltu â nhw’n aml i dderbyn cymorth i lenwi swyddi gwag, a’r llynedd bu iddyn nhw helpu 274 o bobl i gael gwaith.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Mae ganddyn nhw dîm ymroddedig o staff medrus sy’n gallu cefnogi pobl ardal Wrecsam drwy ddarparu sesiynau mentora un-i-un wedi’u teilwra i ddiwallu eu hanghenion.

Maen nhw hefyd yn gallu cynnig cefnogaeth a chyngor ar:

    • Sgiliau hanfodol
    • Addysg a hyfforddiant
    • Sgiliau digidol
    • Sut i lwyddo mewn cyfweliad
    • Llunio CV a llenwi ffurflenni cais
    • Ysgogi a magu hyder
    • Materion hunangyflogaeth
    • Gwirfoddoli/lleoliadau gwaith
    • Cyflogaeth am dâl
    • Cyfrifiadau i fod ar eich ennill

    Mae hwn yn wasanaeth rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n byw yn Wrecsam ac sy’n chwilio am waith.

    Mae gan Gymunedau am Waith a Mwy hefyd glybiau swyddi ac mi fyddan nhw’n ailgychwyn unwaith y bydd yr amgylchiadau yn caniatáu hynny.

    Os hoffech chi dderbyn eu cymorth, yna anfonwch neges i cfw@wrexham.gov.uk neu ffoniwch 07976 200414 neu 07976 200413 i gofrestru ar gyfer eu rhaglen.

    Bydd gofyn i chi lenwi ffurflen atgyfeirio fer dros y ffôn ond, peidiwch â phoeni, bydd popeth yn cael ei egluro wrthych chi mewn mwy o fanylder pan fyddwch chi’n ffonio.

    Mae’r llinellau ffôn ar agor rhwng 10am a 3pm ac os nad ydych chi’n cael ateb mae croeso i chi adael neges er mwyn iddyn nhw eich ffonio chi’n ôl unwaith y mae’n gyfleus.

    Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Dyma gyfnod heriol dros ben ac mae llawer o bobl yn chwilio am waith. Fodd bynnag, gyda nifer o fusnesau ar gau neu ar agor am lai o oriau, mae canfod gwaith yn anodd iawn. Gall Cymunedau am Waith a Mwy baru pobl gyda swyddi newydd yn ogystal â darparu cymorth a chyngor.

    “Os ydych chi’n byw yn Wrecsam, cofiwch gysylltu â’r tîm os oes angen cymorth arnoch chi. Mae ganddyn nhw staff rhagorol a phrofiadol iawn sy’n gallu’ch helpu chi. Dydyn nhw ddim yn addo swydd i bawb ond maen nhw’n gallu cynnig llawer iawn o gymorth a chyngor felly cysylltwch â nhw rŵan ar 07976 200414 neu 07976 200413 i gofrestru.”

    Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Play Mwy o awgrymiadau am bethau i’w chwarae yn ystod y cyfyngiadau ar symud presennol
Erthygl nesaf Nursery admission Ceisiadau ar gyfer dosbarth meithrin 2020, penderfyniadau allan ar ddydd Gwener 8 Mai

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English