Mae’n debyg eich bod wedi clywed ein bod wedi cyhoeddi argyfwng hinsawdd yn ddiweddar. Fel rhan o’r gwaith ar ddatblygu ein cynllun datgarboneiddio, rydym yn ystyried sut y gallwn ni leihau llygredd aer yn Wrecsam.
Un o’r problemau all effeithio ar ansawdd yr aer yw gadael injan y car yn rhedeg neu’n troi’n segur pan fyddwn ni wedi parcio neu’n aros am rywun.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Os ydych chi am fod yn aros yn llonydd am 60 eiliad neu fwy, byddai diffodd injan eich car ac yna’i hailgychwyn pan fyddwch chi’n barod i adael yn achosi llai o lygredd. Dyma gam bach syml tuag at wella ansawdd aer yn Wrecsam.
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn ystyried ffyrdd o wella ansawdd yr aer a lleihau allyriadau, ac un newid y gallwn ni i gyd ei wneud yw diffodd injan y car pan fyddwn ni’n aros.
“Mae’n hawdd gan bobl adael yr injan yn troi os mai dim ond aros am gyfnod byr yn rhywle maen nhw, ond mae hyn yn golygu bod allyriadau diangen a niweidiol yn cael eu gollwng i’n hamgylchedd. Yn awr, yn fwy nag erioed, dyma’r math o beth y mae angen i ni roi’r gorau i’w wneud er mwyn sicrhau Wrecsam gwell a gwyrddach.”
Dangosodd strategaeth aer glân 2019 Defra bod yna gysylltiad rhwng llygredd aer a dros 30,000 o farwolaethau y flwyddyn drwy’r wlad, a bod plant yn dioddef problemau iechyd fydd ganddyn nhw ar hyd eu hoes oherwydd ansawdd aer gwael.
Mae pobl yn aml yn gadael i injan y car droi’n segur wrth groesfannau (wrth aros i drenau basio), y tu allan i ysgolion, y tu allan i archfarchnadoedd ac mewn ardaloedd preswyl. Bod yn ymwybodol o’r ffaith ein bod yn gwneud hyn yw’r man cychwyn ar gyfer rhoi’r gorau iddi.
“Rydym ni i gyd yn gwthio i’r un cyfeiriad”
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae trigolion wedi bod yn cynnig awgrymiadau i ni am welliannau y gallwn ni fel cyngor eu gwneud, ac rydym wedi croesawu hyn.
Mae’r Cynghorydd Bithell yn egluro: “Rydym wrthi’n datblygu ein cynllun gweithredu datgarboneiddio ac yn falch bod trigolion yn codi materion lle gallem ni fod yn gwneud pethau’n well. Dydi hyn yn costio dim, ond mae iddo fanteision go iawn yn y tymor hir. Mae’n dangos eu bod yn cytuno gyda’r hyn rydym ni’n ceisio ei wneud a’n bod ni i gyd yn gwthio i’r un cyfeiriad.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN